Mae cost ôl-groniad cynnal a chadw’r Gwasanaeth Iechyd wedi mwy na dyblu dros gyfnod o bum mlynedd i £750m, yn ôl gwybodaeth sydd wedi’i chasglu gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Yn ôl y wybodaeth ddaeth i law yn dilyn y cais i’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, cost y gwaith atgyweirio oedd angen ei wneud ond sydd heb ei gwblhau eto yw £748.6m ar gyfer 2021-22.

Mae hyn o’i gymharu â £571.1m ar gyfer y flwyddyn flaenorol, a mwy na dwbl ffigwr 2017-18, sef £307.2m.

Mae’r gost derfynol yn debygol o fod yn sylweddol uwch, gan fod Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dweud nad oes ganddyn nhw’r wybodaeth berthnasol, a dydy Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ddim wedi ymateb i sawl cais.

Ym myrddau iechyd Aneurin Bevan (£247.9m) a Betsi Cadwaladr (£239.96m) roedd yr ôl-groniad mwyaf.

£105.8m oedd y ffigwr ar gyfer Hywel Dda, £87.1m ar gyfer Cwm Taf Morgannwg, a £67.9m ar gyfer Powys.

‘Syfrdanol’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae faint o waith sydd angen ei wneud o hyd yn “syfrdanol”, ac mae’n arwydd o “ddiffyg arweiniad gan weinidogion ym Mae Caerdydd”.

“Gyda chost yr ôl-groniad cynnal a chadw’n fwy na dyblu i dri chwarter miliwn o bunnoedd mewn pum mlynedd yn unig, mae’n dangos nad oes gan y Llywodraeth Lafur ddiddordeb mewn cynnal a chadw ysbytai,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.

“Heb fynd i’r afael â hyn, mae perygl i gleifion gael canslo’u triniaethau a’u llawdriniaethau, a thrwy oedi gwaith a gadael i’r rhestr cynnal a chadw gynyddu fel hyn, mae’r perygl wedi cynyddu.

“Mae’n siŵr fod Llafur yn gobeithio na fydd neb yn sylwi ar eu hesgeulustod o ystyried eu gobaith y daw pobol yng Nghymru mor gyfarwydd â chael y rhestrau aros hiraf yn y Gwasanaeth Iechyd a’r aros gwaethaf mewn unedau damweiniau ac achosion brys fel na fyddan nhw’n sylwi, ond bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn tynnu sylw at sut mae Llafur yn methu pawb ohonom.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cynnal a chadw eu hystad fel bod pobl yn derbyn gwasanaethau diogel a chynaliadwy,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Nid yw ein cyllidebau cyfalaf yn cael eu cynyddu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond rydym wedi ymrwymo i gyfrannu mwy na £335m tuag at brosiectau cyfalaf pwysig y Gwasanaeth Iechyd yn y flwyddyn ariannol hon a £375m arall y flwyddyn nesaf i gefnogi sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd ym mhob rhan o Gymru i gynnal yr ystad a gwneud newidiadau iddi.

“Fel rhan o’r buddsoddiad parhaus i gynnal yr ystad, bydd mwy na £48m yn cael ei roi i gefnogi’r gwaith o barhau i adnewyddu Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, ac mae mwy na £25m wedi cael ei ddarparu i sefydliadau ar gyfer gwaith ar y seilwaith trydanol a gwaith atal tân ledled Cymru.”