Jyst cyn ‘Dolig, wnes i brynu BBC History Magazine, ac roeddwn wrthi’n pori drwyddo’n llawen pan ddaliodd erthygl gan Kavita Puri fy sylw. Roedd hi’n sôn am y gwaith diweddar ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i nodi 50 mlynedd ers i Idi Amin, oedd yn llywydd Uganda ar y pryd, orchymyn yr hyn gafodd ei alw’n hanesyddol yn ‘Ddeholiad yr Asiaid’.
Ar Awst 4, 1972, cafodd trigolion De Asia 90 diwrnod i adael y wlad am byth. Mewn cyhoeddiad, dywedodd, “I am going to ask Britain to take over responsibility for all Asians in Uganda who are holding British passports, because they are sabotaging the economy of the Country”.
Ar ôl cryn drafod yn Senedd Prydain, trefnodd y Prif Weinidog Edward Heath i 28,000 o bobol ddŵad i Brydain.
Mae’r rhesymau fod cymaint o bobol o Dde Asia yn Uganda erbyn cyfnod Amin yn gymhleth, ond yn y bôn mae i wneud hefo’r Ymerodraeth Brydeinig. Ac yn ei herthygl, mae Kavita Puri yn tynnu ar lyfr gan Sanjay Patel sef We’re Here because you were there (2021) wrth esbonio hynny.
O ganlyniad i sawl digwyddiad a ffactor dros y blynyddoedd, megis adeiladu’r rheilffyrdd, gweinyddiaeth drefedigaethol Prydain, a ‘Rhaniad India’, mi roedd llawer o drigolion De Asia wedi cael eu geni a’u magu yn Uganda – gan gynnwys rhieni yng nghyfraith fy mrawd.
Hanes cudd a theulu
Yn ei herthygl, mae Kavita Puri yn sôn am sawl elfen o’r deholiad ac ailgartrefu sydd yn absennol o’n ‘cof cyfunol’, megis resettlement centres. Ond rhaid bod yn onest; dim ond trwy deulu fy chwaer-yng-nghyfraith ddes i ar draws yr hanes am y tro cyntaf.
Ges i fy ngeni yn 1979 felly, wrth reswm, does gen i ddim cof o’r digwyddiad ei hun ar y newyddion a ballu. Ond wnes i ddim dysgu amdano yn yr ysgol chwaith. Ac oedd, mi roedd yn fwy diweddar na’r Ail Ryfel Byd (dygais lawer am hynny), ond ni ddysgais am ‘raniad India’ chwaith, a digwyddodd hynny yn 1947.
Yn ystod y cyfnod clo, a minnau wrthi’n ceisio creu gyrfa newydd i fi fy hun, wnes i ymgymryd â’r gwaith o sgwennu adolygiad o’r llyfr How India Lost her Freedom gan Pandit Sunderlal, a synnais ar faint nad oeddwn yn ei wybod am hanes India – yn wir, ges i gadarnhad gan gyn-athro hanes i mi nad oedden ni wedi dysgu hanes India yn yr ysgol, ac nid oedd ef wedi ei astudio chwaith!
Trôdd y gwaith o adolygu’r llyfr yn ymchwil a siwrne epig i mi, a fues wrthi’n cael trafodaethau dros Zoom hefo hen ffrindiau o’r brifysgol, ac yn gwylio ffilmiau hefo fy ngŵr, megis Gandhi (1982) a Viceroy’s House (2017). Mae’n llyfr arbennig o dda gyda llaw, a medrwch ddarllen fy adolygiad fa’ma.
Cofiwch Uganda 1972
Mae prosiectau hanes llafar yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i gasglu atgofion y bobol ddaeth draw, a’r cymunedau lle ymgartrefon nhw. Mae yna arddangosfeydd ffotograffig yn cael eu cynnal dros y flwyddyn nesaf yma ar draws y Deyrnas Unedig.
Synnais wrth ddarllen yr erthygl fod un o’r prosiectau yn cael ei gynnal yn Nhonfanau, Gwynedd, lle ymgartrefodd cannoedd o bobol am ryw chwe mis. Wrth fynd ati i chwilio, dysgais fod yr arddangosfa wedi bod eisoes, ym mis Hydref, draw yn Llyfrgell Tywyn.
Mi roedd hyn yn biti, wrth gwrs, achos fysai hi wedi bod yn wych mynd ene hefo fy nheulu estynedig, ond ges i air hefo Lisa Markham, Llyfrgellydd yn Llyfrgell Tywyn, ac mae’n bosib fydd yr arddangosfa yn dychwelyd i Lyfrgell Tywyn ar daith. Dwi’n bwriadu cadw mewn cysylltiad hefo Lisa, a wnaf hysbysebu’r ddigwyddiad yma ar dudalennau golwg360.
Diddorol oedd clywed gan Lisa am fwrlwm ac emosiwn y diwrnod, hefo cyn-athrawon wedi mynychu oedd yn cofio’r plant, a gorfod ffarwelio â nhw pan gawson nhw eu symud i lefydd eraill. Mae’r storïau hyn yn gyfoethog ac mae’n hyfryd gweld eu bod nhw’n cael eu cofnodi.
Soniodd Lisa hefyd am iddi gael ei geni a’i magu yn yr ardal, ac wedi byw ene gydol ei hoes heblaw am ryw ddeng mlynedd pan aeth hi ffwrdd i’r coleg – ac eto, doedd hi ddim yn ymwybodol o’r hanes o gwbl cyn gweithio i greu’r arddangosfa a’r digwyddiad. Dywedodd fod y prosiect yma, felly, wedi bod yn ddiddorol ac yn hynod o bwysig yn hanesyddol.
Ac wrth i ni gyd ddychwelyd o’r seibiant Nadoligaidd i wynebu 2023 a phob dim a ddaw, dwi’n benderfynol y byddaf yn dysgu mwy, hefo fy nheulu estynedig, am ddeholiad Uganda yn 1972, a’r ailgartrefu yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y cysylltiad yma yng Nghymru. Gyda diolch i Lisa Markham am y lluniau.