Dylai’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyfrannu gwerth costau taith Llywodraeth Cymru i Gwpan y Byd i elusen hawliau dynol, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod llywodraeth Qatar wedi talu iddo aros mewn gwesty pum seren yn ystod y daith.

Ond yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mae’n bosib bod Llywodraeth Cymru’n tanseilio eu hymrwymiad i sicrhau hawliau dynol drwy dderbyn y lletygarwch.

‘Tanseilio ymrwymiad’

Dangosodd Gais Rhyddid Gwybodaeth a gafodd ei wneud gan y blaid y llynedd bod Llywodraeth Cymru wedi talu £13,000 am awyrennau ar gyfer teithio i Qatar hefyd.

“Mae fy mhlaid wedi bod yn glir ers y dechrau wrth ddweud na ddylai Mark Drakeford fod wedi mynd i Qatar, gyrrodd y neges anghywir ynghylch hawliau dynol ac roedd yn rhoi mynd ar ôl gytundebau o flaen ein gwerthoedd,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Wrth dderbyn y wobr hon gan Lywodraeth Qatar, mae’n bosib bod Mark Drakeford wedi tanseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at hawliau dynol, hawliau LHDTC+ a hawliau menywod.

“Daw’r datblygiad hwn ar ôl i Gyngor Llafur Caerdydd fynd ar ôl buddsoddiad o Qatar yn y gorffennol.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn parhau i alw ar Mark Drakeford a Llafur Cymru i gyfrannu cost gyfatebol y daith i elusennau hawliau dynol sy’n mynd i’r afael â’r problemau yn Qatar ac am gael cynrychiolaeth foesol gan Lywodraeth Cymru dramor.”

Roedd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â mynd i Qatar yn sgil pryderon dros hawliau dynol hefyd, ond mae’r llywodraeth wedi amddiffyn y daith dro ar ôl tro gan ddweud ei bod hi’n gyfle i roi Cymru ar lwyfan y byd a cheisio buddsoddiad i’r wlad.

Aeth Mark Drakeford i gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau, tra bod Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn y stadiwm ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr.

Fe wnaeth y ddau weinidog, yn ogystal â phedwar swyddog, aros yng ngwesty’r Ritz-Carlton yn ystod y bencampwriaeth, yn ôl yr adroddiadau.

‘Rhannu gwerthoedd’

Roedd y gwesty yn rhan o’r pecyn lletygarwch oedd yn cael ei gynnig i’r holl gynrychiolwyr, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd bod y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi wedi ymweld â Qatar i gefnogi tîm pêl-droed dynion Cymru wrth iddynt gymryd rhan yn eu Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 o flynyddoedd.

“Roedd hwn yn gyfle i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi, cyfarfod ag aelodau o Lywodraeth Qatar a’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol i drafod hawliau gweithwyr, ac i gymryd rhan mewn cyfarfodydd diwylliannol i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Qatar a Chymru.

“Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i rannu ein gwerthoedd ar hawliau dynol, hawliau LHDTC+, hawliau gweithwyr a rhyddid gwleidyddol a chrefyddol.”