Mae sawl rhybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru heddiw (dydd Mercher, Ionawr 4) yn dilyn glaw trwm dros nos.
Eisoes, mae glaw trwm wedi achosi llifogydd ar yr A458 ym Mhowys, sydd ar gau rhwng Llanfair Caereinion a’r Trallwng, yn ogystal â Phont Dyfi ym Machynlleth.
Mae llifogydd hefyd yn bosib ger yr Afon Hafren yn ardaloedd Abermiwl a Fron ac Aberbechan.
Yn y cyfamser, mae llifogydd wedi amharu ar wasanaethau trên am gyfnod rhwng Pontypridd a Threherbert, ond fe gadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru bod pob lein wedi ailagor erbyn oddeutu 9 o’r gloch fore heddiw.
Roedd yr M48 dros bont Hafren ar gau dros nos i’r ddau gyfeiriad dros nos oherwydd gwyntoedd uchel, ond roedd wedi ailagor erbyn y bore.
Cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws rhan helaeth o Gymru
Fe allai arwain at lifogydd ac amodau gyrru gwael, yn ôl y Swyddfa Dywydd