Mae angen gweithredu “pendant ar frys” gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd, meddai Plaid Cymru.
“Does dim golwg” o’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, yn ôl llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth.
Yn ôl y blaid, dydy hi ddim digon da i Lywodraeth Cymru roi’r bai ar Lywodraeth San Steffan, ac maen nhw’n galw ar y Gweinidog Iechyd i ddefnyddio’r grymoedd sydd ganddi.
Daw’r galwadau wedi i Gyfarwyddwr Cydffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ddweud ei bod hi’n eithriadol o anodd ymdopi ar hyn o bryd yn sgil y galw.
‘Dim golwg o’r Gweinidog Iechyd’
Pan mae arbenigwyr yn defnyddio termau fel “bod ar ymyl y dibyn” ac “ar dorri” i ddisgrifio cyflwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, mae angen “ymateb pendant ar frys” gan Lywodraeth Cymru, meddai Rhun ap Iorwerth.
“Ond, does dim golwg o’n Gweinidog Iechyd, a ddylai fod yn weladwy o leiaf,” ychwanega.
“Mae ein gweithwyr iechyd a gofal arwrol nawr yn gorfod ymddangos ar gyfweliadau teledu, yn ogystal ag ymdopi â phwysau eithriadol yn sgil cynnydd mewn galw a phrinder staff.
“Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog Iechyd ar goll o faes y gâd.
“Dydy hi ddim yn ddigon da i Lywodraeth Cymru osod y bai ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig – er ei bod hi’n wir mai San Steffan sydd yng ngofal y pwrs, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn hollol ddi-rym.
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw arnyn nhw ers tro i ddefnyddio pob grym yn eu meddiant i wneud rhywbeth – unrhyw beth – i ddangos eu bod nhw’n gwrando a bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn flaenoriaeth iddyn nhw.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Gweinidog Iechyd yn brysur yr wythnos hon yn cyfarfod swyddogion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn ymweld ag ysbytai er mwyn cwrdd â staff gweithgar y Gwasanaeth.
‘Methiant systemig’
Yn y cyfamser, mae uwch swyddogion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cael eu cynghori gan Lywodraeth Cymru i adael pobol adref o’r ysbyty, os ydyn nhw ddigon da, heb becyn gofal.
Mae’r newyddion hwn yn “ofnadwy o bryderus” i nifer ohonom, meddai Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.
“Gall nifer o gleifion gael eu haildderbyn os nad ydyn nhw’n gadael â phecynnau gofal digonol.
“Mae yna fethiant systemig gan lywodraethau olynol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf i ddarparu gwelliannau ystyrlon i’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Roedd diwygio gofal cymdeithasol yn addewid allweddol yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llafur, ond mae pethau’n ymddangos yn waeth nag erioed.
“Fedrwn ni ddim datrys yr argyfwng yn ein hadrannau gofal brys nes ein bod ni’n datrys yr argyfwng mewn gofal cymdeithasol.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei amddiffyn drwy’r system gofal iechyd a bod diwygiadau ystyrlon i’r system gofal cymdeithasol yn fuan.”
‘Galw digynsail’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu “galw digynsail” y gaeaf hwn.
“Mae lefelau uchel o ffliw a Covid yn cylchredeg. I gadw pawb yn ddiogel a lleihau pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, os oes gennych chi symptomau, ceisiwch aros gartref a pheidio ymweld â lleoliadau iechyd a gofal.
“Os oes gennych symptomau ac os oes rhaid mynd allan, gwisgwch orchudd wyneb,” meddai.
“Cynghorir unrhyw un â chyflyrau nad ydynt yn peryglu bywyd i ddefnyddio gwefan 111 Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn y lle cyntaf.
“Hoffem ddiolch i bobl Cymru am gefnogi a diogelu ein gwasanaeth iechyd.”
Ychwanegodd eu bod nhw wedi gofyn i fyrddau iechyd ganolbwyntio ar ryddhau pobol sydd ddim angen triniaeth mewn ysbyty yn ddiogel, er mewn helpu i ddarparu gwelyau i bobol sydd angen gofal a thriniaeth frys.
“Gall rhyddhau pobl sy’n ffit yn feddygol i adael yr ysbyty, ac nad oes angen gofal brys bellach, fod o fudd i’r broses adfer drwy leihau’r risg o heintio a gwastraffu cyhyrau.
“Dim ond pan fydd yn feddygol briodol ac yn ddiogel i wneud hynny y bydd cleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.”