Mae diffyg opsiwn Cymraeg ar beiriant hunan-wasanaeth newydd Barclays yn “ofnadwy”, yn ôl un sy’n siomedig â’r gwasanaeth.

Er bod Cai Phillips, sy’n gyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, wedi defnyddio’r opsiwn Cymraeg ar beiriannau’r banc yn y gorffennol cafodd ei synnu nad yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnig mewn twll yn y wal newydd yng Nghaerfyrddin.

Mae angen safonau Cymraeg newydd ar y sector breifat er mwyn rhoi gorfodaeth gwmnïau fel Barclays i gynnig gwasanaethau Cymraeg, meddai Cai Phillips.

Fodd bynnag, mae Barclays wedi dweud mai oedi wrth gyflwyno’r iaith ar y feddalwedd newydd sy’n gyfrifol am y diffyg dewis Cymraeg ac y dylai’r opsiwn fod yno yr wythnos nesaf.

“Mae mam-gu a fi bob tro’n defnyddio’r gwasanaeth Cymraeg, roedden ni wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth Cymraeg yn Barclays hefyd, ond wedyn doedd dim ar gael yn y twll yn y wal newydd,” meddai Cai Phillips, sy’n dod o ardal Caerfyrddin, wrth golwg360.

“Mae’n ofnadwy, mae gwasanaeth bancio’n mynd yn brinnach yn ardaloedd cefn gwlad Cymru ac mae lot o ardaloedd gwledig Cymru’n ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

“Mae angen bod yr iaith Gymraeg yn weledol ar y stryd er mwyn bod pobol sy’n ddi-Gymraeg yn gallu gweld bod y Gymraeg yn bodoli.

“Ond mae e hefyd yn bwysig i gwsmeriaid Barclays, a banciau eraill, sy’n siarad Cymraeg eu bod nhw’n gallu defnyddio gwasanaeth Cymraeg a’i ddefnyddio yn yr iaith maen nhw eisiau.

“Yn y twll yn y wal yma, mae yna Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg… os ydyn nhw’n meddwl bod y ddwy iaith hynny’n bwysicach na’r Gymraeg mae hynny’n syndod i fi.”

‘Angen safonau newydd’

Wrth godi’i bryder yn Gymraeg ar Twitter, cafodd ymateb gan un o weithwyr Barclays yn gofyn iddo yrru’r neges yn Saesneg er mwyn iddyn nhw allu mynd i wraidd y mater.

“Mae hwnna’n dangos faint mor wael yw e,” meddai Cai Phillips.

“Dw i’n cytuno bod angen safonau Cymraeg newydd ar y sector breifat.

“Maen nhw’n colli cwsmeriaid fel hyn.”

‘Diffyg parch’

Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith, wrth golwg360 bod gwasanaeth Cymraeg y banciau yn “ddarniog ac anghyson” pan maen nhw’n bodoli o gwbl.

“Fel yr ymateb uniaith Saesneg i gŵyn Gymraeg am y diffyg, mae hyn yn dangos nad yw’r Gymraeg yn ystyriaeth go iawn i’r banc,” meddai.

“Mae hyn yn brawf pellach, petai angen hynny, y dylai banciau gael eu cynnwys dan Safonau’r Gymraeg fel bod rheidrwydd arnyn nhw i gynnig gwasanaeth Cymraeg, gan gynnwys bancio ar-lein yn Gymraeg.

“Tra bod banciau yn cau canghennau gyda staff Cymraeg ac yn annog bancio ar-lein yn uniaith Saesneg, lleihau mae’r cyfleon i fancio yn Gymraeg, er bod technoleg fel apiau, gwefannau a pheiriannau hunan-wasanaeth yn ei gwneud llawer yn haws a llai costus i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

“Mae agwedd y banciau yn arwydd o ddiffyg parch tuag at gwsmeriaid yng Nghymru. Galwn unwaith eto felly ar Lywodraeth Cymru i osod Safonau ar y banciau cyn gynted â phosib.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i weld “pob sector yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg” a bod cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth iddyn nhw.

‘Oedi’

Yn ôl Barclaus, mae oedi bod wrth gyflwyno’r iaith i’r feddalwedd, ond bydd yn cael ei ddiweddaru wythnos nesaf a bydd yn cynnig opsiwn Cymraeg wedyn.

“Mae’n bolisi i ni gynnig Cymru ar bob ATM yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran y banc.