Mae gwneuthurwr llwyau caru sy’n cynnal sesiwn arbennig ym Mhenygroes heddiw (dydd Iau, Ionawr 19) yn barod at Ddydd Santes Dwynwen yn dweud ei bod hi’n “bwysig i ni gadw ein hunaniaeth fel Cymry”.

Mae Osian Roberts, sy’n 21 oed, yn Swyddog Ffiws ar y Gofod Gwneud yn yr Orsaf, ac yn cynnal sesiwn yn rhad ac am ddim yno heddiw rhwng 4yp ac 8yh.

Yn ffordd ddelfrydol o ddathlu ein traddodiad unigryw, dydy’r llwyau pren yn anodd creu oherwydd y ffordd mae’r Gofod Gwneud yn eu gwneud nhw.

“Mae’r sesiynau yn agored i unrhyw un,” meddai Osian Jones wrth golwg360.

“Mae o i bobol sydd eisiau dathlu Dydd Santes Dwynwen wneud llwyau caru neu fusnesau, yn y Gofod Gwneud.”

“Os wyt ti’n gwneud y llwyau pren efo laser cutter fel rydym ni yn eu gwneud nhw, mae o’n hawdd.

“Os wyt ti eisiau gwneud un ofnadwy o dda sy’n gweithio fel llwy, mae o reit anodd ac yn cymryd ychydig o sgil.”

Pwysigrwydd llwyau caru

Yn danbaid dros ddiwylliant a thraddodiadau Cymreig, mae Osian Roberts yn credu ei bod yn bwysig dathlu ein Dydd Santes Dwynwen gwreiddiol, ac mae’n dweud bod creu llwy garu yn arwydd o gariad ac ymrwymiad i berthynas.

“Mae pawb arall yn dathlu Dydd Sant Ffolant, ond efo ni mae gennym un ein hunain wnaeth ddŵad cyn hwnna,” meddai.

“Mae o’n bwysig i ni gadw ein hunaniaeth fel Cymry.

“Mae llwyau caru yn cynrychioli bo chdi’n caru’r person, a bo chdi wedi mynd i ymdrech i greu’r llwyau yma allan o bren neu efo beth bynnag rwyt ti wedi ei greu o.

“Mae’n dangos dy fod yn fodlon rhoi cymaint o ymdrech mewn i’r perthynas â’r person arall, a bo ti’n caru nhw.”

Yn wreiddiol o Benygroes mae Osian Roberts wedi ei drochi yn y traddodiad llafar am wreiddiau’r llwyau caru.

“Dwi ddim yn meddwl bod llwyau caru yn unman arall yn y byd,” meddai wedyn.

“O beth rwy’n gwybod, roedd yn draddodiad yn y canol oesoedd buan tan rŵan, lle’r oedd pobol pan oedden nhw yn priodi, y gŵr, y darpar ŵr, yn creu llwy garu ar gyfer ei gariad.

“Roedd hyn un ai i propose-io neu ar gyfer diwrnod y briodas.”