Bydd addasiad S4C o nofel gyntaf Iwan ‘Iwcs’ Roberts yn dod i Netflix ym mis Ebrill, yn ôl y llwyfan ffrydio.
Daw’r cyhoeddiad wrth iddyn nhw ddweud bod ganddyn nhw rôl wrth “hyrwyddo a chadw’r iaith Gymraeg” drwy drwyddedu cynnwys Cymraeg.
Dal y Mellt fydd y gyfres iaith Gymraeg gyntaf gan S4C i gael ei thrwyddedu gan Netflix.
Mae’r gwasanaeth ffrydio yn pwysleisio nad ydyn nhw eisiau cystadlu’n benodol ag S4C, ond yn hytrach yn dymuno hyrwyddo rhaglenni penodol fel eu bod nhw’n cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Ionawr 18), dywedodd Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus Netflix yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon bod Dal y Mellt yn enghraifft o adeg lle maen nhw wedi adnabod darn o gynnwys sy’n “benodol iawn yn ddiwylliannol” ond y bydd yn “hynod lwyddiannus” â’u haelodau.
“Dw i’n meddwl y gallwn ni gael rôl wrth ategu at y bwriad i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg,” meddai Benjamin King.
“Dyna pam ein bod ni wedi penderfynu trwyddedu rhai rhaglenni Cymraeg.
“Mae gennym ni is-deitlau Cymraeg ar ambell ffilm, ac mae gennym ni bennod yng nghyfres tri o The Crown sydd bron yn gyfangwbl Gymraeg am goroni’r Tywysog Charles a’i amser yn Aberystwyth.
“Dw i’n meddwl ein bod angen cofio bod gan S4C dasg a hawl benodol i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg, a dydyn ni’n bendant ddim eisiau cystadlu’n benodol â hynny.
“Ond drwy drwyddedu peth o’u cynnwys, gallwn ni ei hyrwyddo a’i helpu i ddod o hyd i gynulleidfa ehangach.
“Rydyn ni’n eithriadol o awyddus i greu rhaglenni ble bynnag y gallwn ni sy’n adlewyrchu bywydau pobol sy’n byw ledled y Deyrnas Unedig, ar draws yr holl wledydd, ac yn wir ar draws y byd.
“Rydyn ni’n gweld yn gyson bod y cynnwys hwnnw’n teithio’n dda iawn.”
Effaith ar dwristiaeth
Dywedodd hefyd fod Cymru wedi bod yn lleoliad cyson i raglenni adnabyddus a phoblogaidd ar Netflix, fel Sex Education a The Crown.
“Ynghyd â’r cyfraniad economaidd – ac rydyn ni’n amcangyfrif o’n data ni’n hunain bod cynhyrchu yng Nghymru wedi creu £200 miliwn i’r Deyrnas Unedig mewn cynnyrch domestig gros (GDP) – mae’r sector twristiaeth yn un pwysig hefyd,” meddai.
“Os edrychwch chi ar sioe fel Sex Education, fe wnaeth 55 miliwn aelwyd dros y byd wylio’r drydedd gyfres. Pan mae pobol yn gwylio rhaglen ac yn mwynhau rhaglen, maen nhw ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o enwi’r lleoliadau yn y gyfres honno fel y lle maen nhw eisiau ymweld ag e’n bennaf.
“Pan rydych chi’n meddwl bod 55 miliwn aelwyd dros y byd ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o ymweld â Chymru ar eu gwyliau, mae’n effaith sylweddol.”