Pryd gwelais i Les Barker gyntaf? Yn un o Wyliau Gwerin Tegeingl, yn yr Wyddgrug. Cynhelid y gwyliau hyn dros benwythnos ym mis Awst bob yn ail flwyddyn rhwng 2008 a 2012 – pabell anferth, a chae llawn; grwpiau gwerin a pherfformwyr unigol, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ac yno y clywais Les, a’i farddoniaeth, gyntaf – a chael fy nghyfareddu. Barddoniaeth Saesneg oedd hyn, cofiwch; gan fardd o Fanceinion a welai’r byd, yn amlwg, mewn sawl ffordd ryfedd. A gweld sawl rhyfeddod yn y byd. “Yn y marquee, chwarddais f’ochr i!” Cofiaf o hyd am ei drefniadau domestig: “I’ve got an occasional table: on Thursdays it thinks it’s a chair…” Cofiaf ei fersiwn yntau o adladd trychineb y Titanic: arth wen yn taro i mewn i swyddfa’r White Star Line yn Efrog Newydd – i holi hynt ei brawd, arth wen arall, a oedd yn hwylio ar y mynydd rhew pan ddaeth rhyw long anferth a’i suddo. Athrylith o fardd – Saesneg.
Yr ail dro i mi gofio gweld Les oedd ymhen ychydig o flynyddoedd, ar noson oer, ac mewn festri oerach, yng Nghefn Meiriadog, ger Llanelwy, i recordio’r Talwrn. Ac yntau wedi symud i Goedpoeth erbyn hynny, gyda thîm o Wrecsam yr oedd. Ac mi ddarllenodd o gerdd Gymraeg: cân ysgafn am chwarae polo dwr. Gêm o polo dŵr yn y pwll nofio yn Wrecsam – y pwll, os ydych yn ei adnabod, gyda’r byrddau-plymio uchel tu hwnt. Iawn? Wel, dim yn hollol. Nid dynion a merched yn nofio oedd yn nŵr cerdd Les yn chwarae polo dŵr, ond… dynion a merched yn marchogaeth eu ceffylau. (Polo dŵr, ynte?!) Nid wyf yn cofio’r cwbl, ond erbyn bod un o’r ceffylau wedi carlamu i ben y bwrdd-plymio uchaf yn barod i sgorio, yr oeddem ni’r gynulleidfa yn ein dyblau.
Fy nghof nesaf: rhyw wyth mlynedd yn ôl, a Frances Jones – hen gydnabod i fi, ac, erbyn deall, athrawes Cymraeg i Oedolion ar Les – yn dangos i fi gopi o waith “un o’i disgyblion hi”. Awdl, gan Les, oedd hyn. Ie, awdl. Gan “ddysgwr.” Cofiaf ddarllen y copi ar fy sefyll, yn stond, a dweud wrth Frances yr hyn yr oedd hi’n ei wybod eisoes – bod yma feistrolaeth gynnar ar y gynghanedd, a huodledd mynegiant hyfryd. (Deallaf erbyn hyn mai’r Prifardd Siôn Aled (Owen) oedd wedi helpu dysgu’r cynganeddion i Les).
Aeth amser yn ei blaen; a daeth Covid-19 yn 2020; ac erbyn ail-agor pethau yn 2021 yr oeddem wedi bachu Les i’n tim Talwrn ni yn Nhegeingl. Gwn bod Sara Louise Wheeler a Pedr Wynn (Jones), y ddau aelod arall o’n tîm, eisoes wedi cyhoeddi teyrngedau yma. Gwir bob gair: brwdfrydedd Les, a’i gyflymder wrth gyfansoddi. Hoffwn innau orffen wrth ddyfynnu ychydig o’i waith, i ddangos ffresni’i ddychymyg, cynhesrwydd ei lais dros gyfiawnder, ac addewid cynyddol ei ddawn gynganeddu.
Ffresni’i ddychymyg: roedd Ceri Wyn, yn meurynna, yn gofyn am benillion am “Dîm Achub Mynydda”. Meddyliodd Les am ryw Mr van Gogh, a datgelu hanes cudd newydd sbon i’r byd:
Roedd ’na dîm achub mynydd yn nhref Amsterdam;
Nid oedd galw amdanynt, a nis gwn i paham.
Byddai Vincent y swyddfa yn delio ’da’r ffôns
(Rhag ofn bod galwad) – tra’n smwddio ei drôns.
Daeth galwad annisgwyl; roedd o’n smwddio o hyd;
rhoes yr haearn at ei glust – a ni chlywodd ddim byd.
Gadawodd y mynyddoedd a’i holl gyd-aelodau;
dalodd drên lawr i Arles a pheintiodd y blodau.
Ie: unwaith y daethech chwi dros achub mynyddoedd yn Amsterdam, bu rhaid i chwi weled yr hen Vincent yn smwddio ei drôns. Pwy ond Les allasai ddychmygu felly?
Ei lais dros gyfiawnder, a’i gydymdeimlad, wedyn. Disgrifiodd sefyllfa ddiflas y ffoaduriaid yn Calais,
“Dros fisoedd a misoedd maith,
Tir neb yn troi’n anobaith…”
Ac fel hyn y disgrifiodd – na, y dangosodd – drychineb y cychod bach i ni:
Cân ysgafn (nad yw’n ysgafn o gwbl):
Ar lan y môr mae rhosys cochion;
ar lan y môr mae lilis gwynion
ar lan y môr mae siaced oren,
a’r tonnau’n tynnu bwrn y bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad
bu merch a mab, bu colled cariad.
O amgylch hon fe dyf y lili ac ambell gangen o rosmari.
Fe welir nawr ein haen hunanol
yng ngolau’r wawr; er yn wahanol,
ai du neu wyn, gelyn neu gyfaill,
y mae ffyrdd gwell, y mae ffyrdd eraill.
A dyma, yn olaf, y bardd cynganeddol ar ei brifiant. Gofynnodd “Ceri’r Talwrn” am gywydd i “Aderyn Prin”, a dyma waith Les, yn gweld problemau’r byd ac yn canu gobaith yn yr un llais.
Aderyn Prin
[Y mae pob un o’r pedwar aderyn a grybwyllir yn y pennill cyntaf ymysg y 70 o rywogaethau Prydeinig sydd ar y Restr Goch am fod mewn perygl..]
Ni chlywn nodau hardd a chlir
y wennol a’r gylfinir;
yn lleihau mae lleisiau’r llu;
ein trachwant sydd yn trechu
drudwen a rhegen yr ŷd;
y rhain, a’u llefain hefyd.
Ond mae Attenb’rough’n cynnau tân;
y fflam i ganiatáu
bod ein nef yn dod yn ôl,
gwir ffenics y gorffennol;
daw gryfder un deryn doeth
rhag cân gyfan o gyfoeth.