Mae Les Barker, sydd wedi marw’n 75 oed, wedi’i ddisgrifio fel “yr un mwyaf rhyfeddol” o blith aelodau tîm Talwrn y Beirdd Tegeingl.

Cafodd ei eni ym Manceinion, ond symudodd i Wrecsam gan ddysgu Cymraeg a mynd yn ei flaen i farddoni a chystadlu mewn eisteddfodau lleol ac ennill cadeiriau lu.

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi iddo yng Nghymru a thu hwnt, yn dilyn y newyddion am ei golli dros y penwythnos.

Dywed Hywel Griffiths ei fod yn “drist iawn o glywed am golli Les Barker”, oedd yn “fardd annwyl a doniol iawn iawn”.

Ychwanega ei fod yn “cofio crio chwerthin mewn stomps yng Ngŵyl Tegeingl a Steddfod”.

Yn ôl Gŵyl Werin Sidmouth yn Nyfnaint, byddan nhw’n “gweld eisiau ei athrylith tawel” ac yn “trysori sawl degawd o atgofion” ohono’n “dal sylw a bodloni mynychwyr yr ŵyl o bob cenhedlaeth”.

Dywed Barddas, y gymdeithas gerdd dafod, ei fod yn “gymeriad annwyl, unigryw a doniol iawn”.

“Yn wreiddiol o Fanceinion, dysgodd y Gymraeg a throchi ei hun yn niwylliant Cymreig Yr Wyddgrug, Sir y Fflint a Chymru gyfan. Bydd colled ar ei ôl. Diolch Les.”

Mae wedi’i ddisgrifio gan y bardd Gruffudd Antur fel “y bardd addfwyna, rhyfedda, ac uchafbwynt pob Stomp yn ddi-ffael”.

‘Un o bell a ddaeth yn agos’

“Yn aelod o dîm barddol Tegeingl ers tro byd bellach, gwelais ambell un yn ymuno ac ymadael â ni ar hyd y blynyddoedd,” meddai Pedr Wynn wrth golwg360.

“Er fy mod wedi mwynhau a gwerthfawrogi cyfraniad pob un ohonynt, gallaf ddweud yn sicr ond heb fychanu’r un o’r lleill, mai Les oedd yr un mwyaf rhyfeddol o’u plith.

“Mae ceisio dadansoddi ac egluro hyn yn peri dryswch i mi.

“Ai oherwydd ei hiwmor gwreiddiol a pharod, ai oherwydd nid yn unig ei fod wedi dysgu Cymraeg y tu hwnt i ragoriaeth ond ei fod hefyd wedi meistrioli’r gynghanedd?

“Hyn oll a mwy.

“Ni fedraf honni fy mod yn adnabod Les yn dda.

“Dyn tawel a phreifat oedd, rhyw addfwynder yn ymbelydru o grombil ei fodolaeth.

“Ond beth yw adnabod wedi’r cwbl?

“Yn anffodus, rydym ni’r Cymry Cymraeg wedi hen arfer â’r holl rai agos sy’n cadw’n bell oddi wrthym. Ond un o bell a ddaeth yn agos oedd Les.

“Diolch iddo am ddod i’n plith a gwella ein bywydau am gyfnod llawer iawn rhy fyr.

“Un o drysorau ein cenedl – ar fenthyg.”

Les Barker yn darllen o lyfr ar lwyfan

Cofio Les Barker

Dr Sara Louise Wheeler

Un o’i gyd-aelodau yn nhîm Talwrn Tegeingl sy’n rhannu ei hatgofion am “berson arbennig iawn a pherson pwysig iawn o ran y Gymraeg a barddoniaeth”