Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Southampton wedi datgan eu cefnogaeth i’r rheolwr o Gymro Nathan Jones, ac mae’n ymddangos felly ei fod yn ddiogel yn ei swydd am y tro.
Mae’r clwb ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, ar ôl un fuddugoliaeth yn unig yn eu saith gêm diwethaf.
Cawson nhw grasfa o 3-0 gan Brentford yn eu gêm ddiwethaf, ond roedd Nathan Jones yn mynnu wedi’r golled ei fod yn “un o reolwyr gorau Ewrop” y tymor diwethaf.
Dywedodd iddo wynebu pwysau i newid ei ddull o chwarae, a’i fod e wedi ildio i bwysau gan chwaraewyr ac wedi cyfaddawdu ond na fyddai’n barod i wneud hynny eto.
Er gwaetha’r hwb i obeithion y Cymro o gadw ei swydd, gallai’r sefyllfa newid eto pe bai Southampton yn colli yn erbyn Wolves y penwythnos nesaf.
Bydd aelodau o fwrdd y clwb yn wynebu’r cefnogwyr mewn fforwm yr wythnos hon, ac mae disgwyl i rai ohonyn nhw feirniadu Nathan Jones, ac mae disgwyl protest y tu allan i’r stadiwm cyn y gêm nesaf.
Tri mis yn unig mae’r Cymro wedi bod yn y swydd, ar ôl olynu Ralph Hassenhuttl.