Mae un o chwaraewyr newydd tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi cael ei ryddhau chwe wythnos ar ôl ymuno â nhw.

Mewn datganiad, dywed y Devils fod Stefan Fournier, y blaenwr o Ganada, wedi torri amodau ei gytundeb.

Ymunodd e â’r clwb yn fuan ar ôl y Nadolig, gan chwarae deg gwaith yn unig yn y gynghrair, gan sgorio tair gôl a chreu tair.

Chwaraeodd e dair gwaith yng Nghwpan y Cyfandir fis diwethaf hefyd.

Dydy’r Devils ddim wedi manylu ar sut yn union y gwnaeth e dorri ei gytundeb, ond maen nhw wedi diolch iddo am ei gyfraniad gan ddymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.