Mae Alun Wyn Jones yn holliach ar gyfer y daith i Murrayfield i herio’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Chwefror 11).
Daw hyn er gwaethaf sylwadau’r prif hyfforddwr Warren Gatland, oedd wedi dweud ar ôl y golled yn erbyn Iwerddon fod y cyn-gapten wedi methu asesiad anaf i’r pen.
Ond mae meddygon Cymru bellach yn dweud nad yw hynny’n wir, a’i fod e wedi anafu ei wddf ac nid ei ben, er ei fod e wedi cael asesiad i’w ben gan feddyg a bod canlyniad anarferol yn golygu nad oedd modd iddo ddychwelyd i’r cae.
Mae e wedi cael dau brawf pellach ac wedi pasio’r rheiny, wrth i feddygon ddweud nad oedd e wedi dioddef cyfergyd.
Mae Undeb Rygbi Cymru’n cydweithio’n agos â World Rugby a’r Chwe Gwlad ar y mater.
Yn y cyfamser, mae George North yn gobeithio bod yn holliach ar ôl cael sawl ergyd yn ystod y gêm agoriadol, ac mae Cymru’n aros i weld a fydd y prop Tomas Francis yn holliach ar ôl anafu ei goes.
Mae disgwyl i Warren Gatland gyhoeddi ei dîm ddydd Iau (Chwefror 9).