Mae adroddiad newydd ar effaith cystadleuaeth ddinesig y Can Pelen ac agweddau cefnogwyr criced tuag ati, yn nodi y dylai tîm dynion y Tân Cymreig chwarae rhai gemau cartref yn Lloegr.

Cafodd y Tân Cymreig ei sefydlu fel tîm dinesig Caerdydd ar gyfer tymor cynta’r Can Pelen ac ers hynny, dim ond yng Nghaerdydd maen nhw’n chwarae eu gemau cartref, er eu bod nhw hefyd yn cwmpasu dinasoedd Bryste a Taunton.

Mae tîm y merched yn rhannu eu gemau cartref rhwng Bryste a Taunton ar y cyfan.

Mae nifer o chwaraewyr Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf yn chwarae i’r tîm, gyda llond llaw yn unig o chwaraewyr Morgannwg yn y garfan.

Adroddiad

Mae’r adroddiad Levelling the Playing Field? The Impact of The Hundred, Year One wedi’i lunio gan Raf Nicholson, gohebydd criced blaenllaw sy’n arbenigo mewn rhywedd; y cymdeithasegydd Dr Keith Parry; a’r darlithydd marchnata Dr Aravind Reghunathan o Brifysgol Bournemouth.

Mae’n sôn am fodlonrwydd cefnogwyr a llwyddiant y gystadleuaeth wrth ddenu cefnogwyr newydd at y gamp, ond hefyd am feddwdod a’r adloniant byw yn tarfu ar brofiadau ymwelwyr â gemau.

Mae’n tynnu sylw at lwyddiant ymgyrchoedd marchnata wrth ddenu menywod a phlant at y gystadleuaeth, ond yn nodi bod cynnal gemau’r dynion a’r merched ochr yn ochr yn codi proffil gêm y merched ac y dylid manteisio ar hynny.

Mae hefyd wedi llwyddo i newid agweddau dynion at gêm y merched, a rhoi’r cyfle i ferched gael arwyr ac esiampl i’w dilyn ar y cae.

Yn rhan o hynny, mae cynnal gemau’r dynion a’r merched gefn wrth gefn wedi cynyddu apêl y gamp, ac mae’r adroddiad yn galw ar Fwrdd Criced Cymru a Lloegr i “ystyried y posibilrwydd o gynnal gemau cefn wrth gefn mewn ystod ehangach o gaeau”, ond gan ychwanegu “er enghraifft, Taunton ar gyfer y Tân Cymreig”.

Holiadur

Cafodd yr adroddiad ei lunio’n rhannol ar sail holiadur, gyda 244 o ymatebion wedi’u derbyn.

O blith y rheiny, roedd 23 yn byw yn ne-orllewin Lloegr ac 14 yng Nghymru.

Nododd un cefnogwr Gwlad yr Haf, “Fel cefnogwr Gwlad yr Haf, does gen i ddim tîm wir, sydd ddim yn broblem fawr ond mae’n golygu nad oes gen i rywun… wnes i bicio i mewn ac allan, gwylio tair gêm efallai ar y teledu ac wedi mynd i un gêm a dyna ni.

“Gwelais i Birmingham achos mae Moeen Ali yn chwarae iddyn nhw, a dw i’n dwlu ar Moeen Ali, ond dyna fy unig reswm.

“Dw i ddim yn Gymro, felly doedd y Tân Cymreig ddim yn ymddangos yn iawn, na’r un o’r gweddill chwaith, wir.”

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod cysylltiad emosiynol ag un o’r timau’n debygol o arwain at ymgysylltu’n well.

Dywedodd 91% o’r rheiny sydd ddim yn cefnogi’r un o’r timau dinesig nad ydyn nhw wedi gwylio mwy o griced o ganlyniad i wylio’r Can Pelen – dim ond 47% o’r rheiny sydd yn cefnogi un o’r timau dinesig ddywedodd yr un fath.

Casgliadau

“Dylai’r ECB ystyried y posibilrwydd o gynnal gemau cefn wrth gefn ar amrywiaeth ehangach o gaeau (er enghraifft, Taunton ar gyfer y Tân Cymreig), fel ffordd o dawelu rhai cefnogwyr sirol presennol ac annog mwy o gefnogaeth ddaearyddol ehangach ar gyfer timau’r Can Pelen,” meddai casgliadau’r adroddiad.

Darllenwch yr adroddiad cyfan ar wefan Prifysgol Bournemouth.