Mae angen cydnabod fod angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod chwaraeon i bawb, beth bynnag fo’u cefndir, yn ôl y chwaraewr rygbi Lloyd Lewis.

Bydd Lloyd Lewis, sydd wedi chwarae rygbi saith bob dros Gymru, yn cymryd rhan mewn sgwrs gyda’r Athro Laura McAllister, cyn-gapten tim pêl-droed Cymru a chyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru, i drafod cynwysoldeb menywod, y gymuned LHDTC+ a phobol o gefndiroedd lleiafrifol ethnig ym myd chwaraeon.

Yn ogystal â bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, mae Lloyd Lewis wedi datblygu gyrfa fel rapiwr ac fel cyflwynydd ar S4C.

“Mae’n bwnc pwysig iawn i’w drafod yng Nghymru, yn enwedig ar hyn o bryd gyda’r sylw presennol yn y wasg i Undeb Rygbi Cymru,” meddai Lloyd Lewis, 26, sy’n chwarae i dîm rygbi saith bob ochr Casnewydd.

“Fel Cymro Cymraeg a chwaraewr rygbi o gefndir lleiafrifol ethnig, dw i wedi profi rhagfarn a hiliaeth ar y cae chwarae, felly mae angen cydnabod fod angen gwneud llawer mwy er mwyn sicrhau fod chwaraeon i bawb, beth bynnag eich cefndir.

“Mae’n hanfodol i gael cynrychiolaeth o Gymru fodern a’i chyfoeth o ddiwylliannau ym mhob maes – ym myd addysg, cyfryngau a chwaraeon, a sicrhau bod chwarae teg i bawb.

“Mae’n hollbwysig er mwyn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf, a chreu newid.”

‘Methu parhau â’r gamdriniaeth’

Mae’r cyfweliad yn rhan o gyfres ‘Hunaniaeth: Cymreictod’ sydd wedi’i threfnu ar y cyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.

Y nod ydy mynd i’r afael â hunaniaeth genedlaethol o safbwyntiau amrywiol megis crefydd, hil, rhywedd, a’r gymuned LHDTC+.

Fel aelod ac ymgyrchydd yn y gymuned LHDTC+ yng Nghymru, bydd Laura McAllister yn trin a thrafod hunaniaeth Gymreig ynghylch chwaraeon a chynwysoldeb y gymuned LHDTC+ yn y maes.

“Allwn ni ddim parhau gyda’r gamdriniaeth warthus mae chwaraewyr o gymunedau lleiafrifol yn ei dderbyn,” meddai.

“Rwyf wedi profi hyn yn bersonol yn ddiweddar yn Qatar.

“Ond dydyn ni ddim yn ildio ar y gwrthwynebiad cyntaf.

“Os gallwn gyfrannu tuag at addysgu nid yn unig cefnogwyr, ond arweinwyr hefyd o fewn sefydliadau, i ddileu’r gamdriniaeth ofnadwy sydd yn digwydd i chwaraewyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig a chwaraewyr benywaidd hoyw, yna rwy’n credu y bydd hynny’n gyfraniad hanfodol a gwerthfawr.

“Mae awydd am newid sydd yn beth positif.”

Yr Athro Laura McAllister

Cwpan y Byd

Wrth edrych yn ôl ar Gwpan y Byd, dywed Laura McAllister ei fod yn gyfle “amhrisiadwy” i adlewyrchu Cymru a’i diwylliannau amrywiol i weddill y byd.

“Mae pêl-droed Cymru wedi llwyddo i ymgysylltu â chymunedau diwylliannol amrywiol, gan gysylltu’r lleol â’r cenedlaethol a’r byd-eang i bob pwrpas,” meddai.

“Rydym wedi symud ymhell o’r ddelwedd hen ffasiwn a nawddoglyd sydd gan lawer o ddinasyddion y byd o’n cenedl.

“Felly, bydd y dirgelwch a’r diddordeb am Gymru yn ffres i gynulleidfaoedd yn Qatar 2022.

“Mae angen i’n naratif fod yn flaengar ac yn seiliedig ar werthoedd Cymru fel cenedl enfys, dinesydd byd-eang da sydd â phobl gynhwysol a chroesawgar, ieithoedd a diwylliannau amrywiol.”

  • Bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal ar-lein ar Chwefror 15 am 6yh, a’r sesiwn yn cael ei chadeirio gan Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Gall unrhyw un gofrestru drwy fynd i Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg.