Mae Joe Allen, chwaraewr canol cae Cymru, wedi ymddeol o gemau pêl-droed rhyngwladol yn 32 oed.

Chwaraeodd e 74 gwaith dros Gymru, gan helpu’r garfan i gymhwyso ar gyfer Ewro 2016 a 2020, a Chwpan y Byd y llynedd.

Chwaraeodd e yn y gêm yn erbyn Portiwgal yn rownd gyn-derfynol yr Ewros yn 2016, a chwarae ei ran hefyd yn ymgyrch y tîm yn y gystadleuaeth yn 2021 pan gyrhaeddodd Cymru’r ail rownd.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywed ei fod wedi bod yn “hynod ffodus” i gael chwarae dros ei wlad.

Daw’r cyhoeddiad fis ar ôl i un o sêr eraill Cymru, y capten Gareth Bale, gyhoeddi ei ymddeoliad.

“Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus yn fy mywyd i gael chwarae dros Gymru,” meddai Joe Allen, sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Abertawe.

“Mae’r daith wedi bod yn un anhygoel ac rwyf wedi ei rhannu â phobol arbennig iawn: fy nheulu, cyd-chwaraewyr, staff a chefnogwyr; pob un wedi cyfrannu i’w gwneud yn daith eithriadol.

“Rwyf yn ddiolchgar i bob un ohonoch.

“Roedd y gefnogaeth gan Gymry oll yn ysbrydoliaeth a roddodd falchder pur i mi bob tro wrth wisgo’r crys. Bu cymaint o brofiadau bythgofiadwy.

“Yn anffodus, oherwydd anafiadau, daeth diwedd cyfnod ac mae’n amser i roi cyfle i’r genhedlaeth nesaf fwrw ymlaen.

“Mae dyfodol pêl-droed Cymru yn ddisglair.”


Rydym wedi dymchwel y wal dalu ar y cyfweliad hwn â Joe Allen adeg ei drosglwyddiad yn ôl i Abertawe ar drothwy Cwpan y Byd:

Joe Allen

Croeso adref, Joe Allen

Alun Rhys Chivers

Mae chwaraewr canol cae Cymru yn ôl yn Abertawe ac yn ysu i gael bwrw iddi unwaith eto