Ac yntau wedi dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe dros yr wythnosau diwethaf, mae Joe Allen yn dweud wrth Alun Rhys Chivers ei fod yn edrych ymlaen at y misoedd sydd i ddod cyn Cwpan y Byd a gwisgo rhif arbennig ar ei gefn…
Ar ôl dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe dros yr wythnosau diwethaf, mae Joe Allen yn edrych ymlaen at y misoedd mawr sydd i ddod cyn Cwpan y Byd gyda Chymru yn Qatar, a hefyd yn llygadu carreg filltir go fawr gyda’r clwb lle dechreuodd ei yrfa.
Chwaraeodd y Cymro Cymraeg yng nghanol cae’r Elyrch 36 o weithiau yn nhymor cynta’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011-12, gan sgorio pedair gôl, cyn ymuno â’i reolwr Brendan Rodgers ar ôl i’r Gwyddel adael am Lerpwl ar ddiwedd y tymor hwnnw. Erbyn i Allen adael Abertawe am £15m, roedd ganddo fe saith gôl mewn 150 o gemau ar draws yr holl gystadlaethau.
Treuliodd e bedwar tymor yn Anfield gan sgorio saith gôl arall mewn 132 o gemau, cyn cael dau dymor yn yr Uwch Gynghrair a phedwar yn y Bencampwriaeth gyda Stoke, a phenderfynu gadael dros yr haf ar ddiwedd ei gytundeb.
Ar ôl gwyliau ym Majorca, mae Allen yn ôl ar y cae ymarfer yn Fairwood ac yn ysu i gael bwrw iddi unwaith eto. Doedd hi ddim yn gyfrinach pan adawodd Allen Abertawe ei fod e’n dyheu am ddychwelyd rywbryd cyn diwedd ei yrfa. Ac yntau bellach yn 32 oed, mae’n gobeithio dychwelyd i’r Uwch Gynghrair gyda chlwb ei blentyndod ar ôl gwrthod cytundebau gyda sawl clwb yn y Bencampwriaeth a Mallorca yn Sbaen. Pe bai’n llwyddo i gyflawni’r nod, ei gêm gynta’n ôl yn yr adran uchaf fyddai ei 200fed yn yr adran honno, a fyddai’n garreg filltir fawr yn dilyn cyfnodau gydag Abertawe, Lerpwl a Stoke. Ac fe fydd e’n gwisgo rhif arbennig ar ei gefn hefyd – y rhif saith a gafodd ei wisgo yn y gorffennol gan Leon Britton ac Alan Curtis ac a wisgodd e ei hun dros Gymru. Ond a fydd y rhif saith yn lwcus iddo fe hefyd?
“Dyna’r targed, wrth gwrs,” meddai wrth golwg am y nod o geisio dychwelyd ag Abertawe i’r Uwch Gynghrair ar ôl pum tymor yn y Bencampwriaeth. “Yr un targed â bron bob clwb yn y gynghrair. Mae’n gystadleuol, ond dw i wedi cael digon o brofiad o fod yn chwarae yn y Bencampwriaeth ac o beth dw i wedi’i weld hyd yn hyn, dw i’n hyderus. Mae digon gyda ni i fod lan tuag at y top yn herio am y llefydd yna.”
Mae Joe Allen eisoes wedi canmol dulliau hyfforddi Russell Martin a’i dîm, ac mae’r rheolwr yn ffan mawr ohono fe ers tro ac wedi bod yn allweddol wrth ddenu’r chwaraewr yn ôl i’r Elyrch. Sut mae Allen yn teimlo o gael bod yn ôl gyda’r clwb lle dechreuodd ei yrfa, tybed, a beth yw ei argraffiadau o’r clwb ar ôl dychwelyd ddegawd yn ddiweddarach?
“Gwych i fod ’nôl. Roedd [llofnodi] y cytundeb yn cael y job done. Mae wedi bod yn braf bod ’nôl yn y clwb lle mae tipyn o hanes gyda fi. Mae pethau’n mynd yn wych, dw i’n meddwl.
“Mae gymaint o chwaraewyr arbennig o dda yma. Maen nhw hefyd wedi cael tymor, neu’r mwyafrif o’r chwaraewyr wedi cael tymor o weithio’r ffordd yma gyda’r rheolwr, felly dw i’n siŵr fydd hwnna’n help enfawr. Ti’n edrych ar dalent a sgiliau chwaraewyr fel Matt Grimes, Joel Piroe, Kyle Naughton… ac wrth gwrs, ry’n ni wedi arwyddo pobol fel Harry Darling gafodd dymor gwych tymor diwethaf, felly mae llawer o bethau i deimlo’n bositif amdano. Dw i’n gobeithio fydd e’n dymor i’w gofio.”
Hir yw pob aros
Fe fu cryn sôn a chryn ddyfalu ers tro y gallai’r chwaraewr o Sir Benfro ddychwelyd i Abertawe ar gyfer tymor 2022-23. Ond roedd hi hefyd yn hysbys y byddai angen i Abertawe werthu chwaraewyr er mwyn cadarnhau’r trosglwyddiad, ac fe ddaeth hynny gydag ymadawiad Flynn Downes i West Ham. Beth yn union ddigwyddodd, felly, rhwng y trosglwyddiad hwnnw a’r cadarnhad fod Joe Allen am ddychwelyd i Abertawe?
“Gyda chytundeb fi’n bennu yn Stoke, ro’n i’n gwybod efallai fyddai siawns bo fi’n symud clybiau yn yr haf,” meddai. “Ro’n i’n gwybod petasai hynny’n digwydd, roedd diddordeb gan y clwb ac ar ôl i’r tymor bennu a’r gemau pwysig gyda Chymru, ro’n nhw eisiau siarad gyda fi, felly roedd hwnna’n wych i glywed.
“Roedd y sgwrs rhyngof fi a’r clwb yn bositif iawn. Roedd tipyn angen cael ei sortio cyn iddo fe ddigwydd, felly doedd e ddim yn sicr yn mynd i ddigwydd. Ond wrth gwrs, gyda Flynn Downes yn symud ymlaen, dyna pryd wnaeth e edrych fel bod e’n digwydd ac o fewn cwpwl o ddiwrnodau, roedd hi’n bosib i sortio popeth allan.”
Yn wahanol iawn i gyfnod euraid yr Uwch Gynghrair, mae’r Elyrch bellach yn brwydro i ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth. Daethon nhw’n agos ddwywaith o dan Steve Cooper, gan gyrraedd y gemau ail gyfle ddau dymor yn olynol, gan gynnwys y rownd derfynol yr eildro. Ond ar ôl tymor o ailadeiladu o dan reolaeth Russell Martin, gorffennodd yr Elyrch yn bymthegfed y tymor diwethaf. Gyda’r clwb mewn sefyllfa mor wahanol i’r adeg pan adawodd e, oedd hi’n anodd iddo gerdded yn ôl i mewn trwy’r drws?
“Dim o gwbl,” meddai’n bendant. “Dw i wedi cael croeso enfawr gan y cefnogwyr, y rheolwr a’r hyfforddwyr ac mae’r chwaraewyr wedi bod yn fendigedig gyda fi, felly mae wedi bod yn hawdd i ddod ’nôl i’r clwb. Mae wedi bod yn braf i weld y ffordd mae’r tîm yn gweithio – pethau tactegol, y bois yn ymarfer – mae popeth wedi bod yn bositif iawn. Dw i’n edrych ymlaen nawr i ddechrau chwarae fy hunan.”
Methu dweud ‘Na’ wrth Lerpwl
Ond mae’n siŵr fod ganddo fe deimladau cymysg wrth adael Abertawe yn 2012…?
“Mae’n anodd gadael rhywle ble mae popeth yn berffaith. Roedd y clwb mewn sefyllfa wych, wedi bod yn perfformio’n arbennig o dda yn y Premier League, felly wnaeth hwnna wneud e’n anodd. Ond ar yr un pryd, pan mae clwb fel Lerpwl yn dod, ro’n i wastad yn mynd i gymryd y cam ymlaen i glwb fel yna a cheisio chwarae y lefel yna o bêl-droed.”
Fel Cymro, does dim modd anwybyddu’r ffaith ei fod e wedi chwarae i ddau glwb sydd â chysylltiadau Cymreig cryf ar ôl symud o Abertawe. Yn Stoke, fe fu’n chwarae i ddau reolwr o Gymru, Mark Hughes a Nathan Jones, ac mae gan Lerpwl gryn ddilyniant yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd. Wnaeth e sylwi ar Gymreictod y ddau glwb, tybed?
“Mae lincs wedi bod yn y ddau glwb yna, y ddau yn brofiadau wnes i joio,” meddai. “Ges i’r profiad o chwarae gyda sawl chwaraewr o safon uchel iawn. Dw i wedi chwarae gyda tipyn o fois yn Stoke – Ash [Ashley Williams], Sam Vokes, James Chester – sydd wedi chwarae dros Gymru, felly mae wedi bod yn grêt i gael y linc yna gyda’r Cymreictod. Yn enwedig Lerpwl, wrth gwrs, ond mae Stoke yn weddol agos i Gymru hefyd. Mae sawl person wedi dweud wrtha’i am y chwaraewyr o Gymru sydd wedi chwarae i’r clwb yn y gorffennol.”
Ond does unman yn debyg i adref, medden nhw, ac mae Joe Allen yn sicr yn teimlo hynny wrth feddwl am gael chwarae gerbron y ‘Jack Army’ unwaith eto. Ac er gwaetha’r anaf gafodd e i linyn y gâr yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis diwethaf, mae’n hyderus y bydd e’n holliach ar gyfer gêm Abertawe oddi cartref yn Rotherham ar Orffennaf 30, gan ddiolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ei helpu gyda’i adferiad yn y cyfnod rhwng gadael Stoke ac ymuno ag Abertawe.
“Dw i wedi bod yn lwcus iawn gyda’r clybiau dw i wedi chwarae drostyn nhw, ond dyma’r clwb ble des i trwyddo, gyda’r daith roedd y clwb wedi bod arni pan o’n i’n ifanc. Roedd e’n anhygoel. Mae gemau fel y play-offs yn sefyll allan. Mae cymaint o gefnogaeth wedi bod i’r tîm, a dw i’n siŵr fod y chwaraewyr newydd dal yn teimlo hwnna nawr, a dw i’n edrych ymlaen at chwarae o’u blaen nhw eto cyn bo hir.”
Un llygad ar Gwpan y Byd?
Mae gan Allen hanner tymor o gemau gydag Abertawe cyn i dymor y Bencampwriaeth, fel yr Uwch Gynghrair, gael ei oedi ar gyfer Cwpan y Byd. Bydd gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Dachwedd 21. Ydy hi’n rhy gynnar eto i ddechrau meddwl am Gwpan y Byd cyntaf Cymru ers 1958, felly?
“Bydd [Cwpan y Byd] yn dod rownd yn gyflym iawn dw i’n siŵr. Mae’n rywbeth i bawb edrych ymlaen iddo fe, a dw i’n gobeithio galla’i fod yn perfformio’n dda i Abertawe, bydd popeth yn iawn gyda fy ffitrwydd a bydda i’n barod pan ddaw’r amser i fynd i Qatar.
“Mae’n amhosib peidio meddwl amdan Cwpan y Byd, wrth gwrs, ond na, mae angen i fi’n bersonol ganolbwyntio ar bêl-droed fy nghlwb. Dyna beth ddylai pob un o chwaraewyr Cymru wneud rhwng nawr ac unrhyw gêm gyda Chymru. Canolbwyntio ar berfformio ar gyfer eu clwb a hwnna yw’r ffordd orau i baratoi ar gyfer y gemau yna.”
Yn un o’r Cymry Cymraeg yng ngharfan Cymru, sut deimlad oedd clywed Dafydd Iwan yn morio canu ‘Yma O Hyd’ yn ystod y dathliadau ar ôl cyrraedd Cwpan y Byd? Wedi’r cyfan, roedd y chwaraewyr yn yr ystafell newid y tro cyntaf.
“Mae pobol yn dal i siarad am yr eiliadau hynny, ac fel chwaraewyr, roedden ni braidd yn siomedig bo ni wedi’i fethu fe’r tro cynta’. Gawson ni fe’n ail law, ond roedd e’n dal yn bwerus.
“Mae’r ail dro ymhlith yr atgofion gorau nawr. Ar ôl cymhwyso, roedd cael y cyfle i fynd ar y cae i ganu gyda fe’n deimlad braf. Rydyn ni’n genedl falch, a dyna beth sy’n bwysig. Gallwch chi weld beth mae’n golygu i bawb yng Nghymru. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael yn anhygoel. Rydyn ni’n ddiolchgar am hynny, ond un o’r rhesymau mwyaf am y gefnogaeth, dw i’n eitha’ siŵr, yw eu bod nhw’n gallu gweld ei bod hi’n bwysig i ni.
“Rydyn ni eisiau gwneud y genedl yn falch.”