Fe drodd thenational.wales at chwaer bapur newydd yr Herald i gael esboniad (arall) pam fod Boris Johnson wedi mynd i gymaint o strach…
“Arferai fod mur rhwng bywydau personol gwleidyddion a’r byd cyhoeddus. Mae hwnnw wedi mynd i raddau helaeth yn oes y cyfryngau cymdeithasol. Gyda Twitter a llwyfannau eraill, gall unigolion dicllon fel Mr [Dominic] Cummings ledaenu straeon na fydden nhw wedi cael eu hadrodd yn llawn yn y gorffennol… Mae gwleidyddion yn cael eu tynnu at Twitter, er y dylen nhw ei adael i fod… ond fydd cyfryngau cymdeithasol ddim yn diflannu, na Mr Cummings chwaith. Fydd gwleidyddiaeth fyth yr un peth eto.” (Iain Macwhirter)
Mae’r trafodaethau am gyfansoddiad gwledydd Prydain yn parhau hefyd efo Glyndwr Cennydd Jones yn awgrymu math ychydig yn wahanol o ffederaliaeth…
“Cwestiwn mawr brys y dyfodol yw a ddylai sofraniaeth… gael ei rhannu ar draws… pump endid dearyddol (gan gynnwys Prydain) mewn trefniant ffederal traddodiadol neu, yn hytrach, ei rhoi yn unigol i’r pedair cenedl – Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr – a fyddai yn eu tro yn dirprwyo neu gyd-rannu rhywfaint o’u hawdurdod sofran i sefydliadau canolog cyffredin…” (nation.cymru)
Dulliau ethol yn y Senedd yng Nghardydd sy’n poeni John Dixon; er nad yw’n hollol hapus, mae’n dadlau bod rhaid derbyn y newidiadau sydd ar droed, gydag 16 etholaeth a chwech aelod rhestr (y dull d’Hondt) …
“O dderbyn fod gan gefnogwyr d’Hondt ar gyfer y Senedd eisoes y mwyafrif sydd ei angen i weithredu eu cynlluniau, mae’r unig ddadl wirioneddol yng Nghymru’n ymwneud â chael y Blaid Lafur i newid ei meddwl, canlyniad annhebygol. Weithiau, mae’n well jyst derbyn y gwelliant sydd ar gael, hyd yn oed os mai dim ond gobaith annelwig sydd yna y bydd yn arwain at rywbeth gwell yn y dyfodol. Ac mae troedigaeth Llafur Cymru i dderbyn system gyfrannol gyflawn, er na fyddai llawer ohonon ni’n dewis honno, yn gam anferth ymlaen.” (borthlas.blogspot.com)
Yn ôl cyn-Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae gan y Llywodraeth y gefnogaeth angenrheidiol i gyfyngu ar ail gartrefi hefyd …
“…mae mwyafrif pobol Cymru yn cefnogi camau i gyfyngu ar berchnogaeth ail gartrefi. A phan roddwyd awgrymiadau i bobol o’r ffyrdd y gallai’r camau hynny helpu – gwarchod yr iaith Gymraeg a darparu cartrefi fforddiadwy – roedd y gefnogaeth yn codi’n sylweddol. Roedd hyd yn oed mwyafrif o Geidwadwyr o blaid. Mae gan Lywodraeth Cymru’r gefnogaeth ar gyfer newid. Rhaid iddi fanteisio’n llawn ar y gefnogaeth a gweithredu’n gynt a chryfach i ddiwygio’r farchnad dai cyn ei bod yn rhy hwyr.” (thenational.wales)
A phroblem arall, yn ôl Sefydliad Bevan, yw’r gwahaniaeth rhwng lefelau budd-dalidau tai a gwir gost rhentu …
“Mae miloedd o dylwythau’n cael eu gwthio i galedi ariannol wrth iddyn nhw geisio defnyddio incwm o ffynonelllau eraill i gau’r bwlch rhwng eu budd-daliadau a’u rhenti. I eraill, gall y bwlch eu gwthio i fod yn ddigartref neu i fyw mewn tai annigonol… Rhaid gweithredu i gynyddu gwerth y budd-dal tai… mae hynny’n angenrheidiol os ydym am sicrhau bod pawb yng Nghymru’n gallu cael gafael ar gartref diogel a fforddiadwy.” (Hugh Kocan)