Mae athrawes adnabyddus wedi archebu telynau teires yn arbennig i drosglwyddo’r grefft i’r genhedlaeth nesaf….

Fe fydd telynau teires ‘Nansi’ newydd i’w gweld yn rhan o weithgarwch Cymdeithas y Delyn Deires yn Neuadd Capel Bwlchgwynt yn Nhregaron ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

O’r dydd Llun hyd at ddydd Mercher, fe fydd sesiynau blasu, cyflwyniadau a chyngerdd prynhawn o dan arweiniad aelodau’r Gymdeithas.