Roedd torcalon neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 7) i dîm pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw golli yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Sheffield United, sydd wedi cyhuddo’r clwb yn y gogledd o ddangos diffyg parch.

Sheffield United oedd wedi mynd ar y blaen wrth i Anel Ahmedhodzic sgorio cyn i Paul Mullin unioni’r sgôr o’r smotyn i Wrecsam, a methu cic arall o’r smotyn yn ddiweddarach wrth i Adam Davies arbed ei gic.

Sgoriodd Billy Sharp, capten 37 oed Sheffield United, gôl bwysig i roi ei dîm ar y blaen, cyn i Sander Berge rwydo’r drydedd i sicrhau gêm pumed rownd yn erbyn Spurs, gyda’r ddwy gôl yn dod yn hwyr yn yr ornest.

Gorffennodd y gêm wreiddiol ar y Cae Ras yn gyfartal 3-3 cyn iddyn nhw orfod ailchwarae yng ngogledd Lloegr

Ond mae’n ymddangos mai sylwadau chwaraewyr a pherchnogion Wrecsam oddi ar y cae oedd wedi cythruddo capten Sheffield United.

Cyn y gêm, dywedodd Paul Mullin fod gan Wrecsam un llygad ar y gêm yn erbyn Spurs, a dywedodd Billy Sharp eu bod nhw wedi bod yn “amharchus” a’i fod e’n “anhapus” â rhai o’r chwaraewyr a’i fod e’n “rhwystredig”.

“Do’n i ddim yn hapus gyda’r ffordd maen nhw wedi bod fel clwb,” meddai.

“Cyn y gêm, llygadu Spurs pan nad ydyn nhw wedi ein curo ni hyd yn oed.”

Wrecsam yn taro’n ôl

Ond doedd Phil Parkinson, rheolwr Wrecsam, ddim yn hapus ag ymateb Billy Sharp chwaith.

“Ro’n i braidd yn siomedig â Billy, gyda rhai o’r pethau roedd e’n eu gweiddi i lawr y twnnel,” meddai.

“Mae e’n chwaraewr gwych ond ro’n i’n meddwl ei fod e’n amharchus ar ôl y gêm.

“Roedd y ffordd wnaeth eu chwaraewyr nhw ddathlu’n arwydd o ba mor anodd roedden ni wedi’i gwneud hi iddyn nhw.

“Fy neges i Billy yw: rwyt ti’n well na hynny.

“Mae fy chwaraewyr yn bobol ostyngedig ac maen nhw’n glod i’r clwb.”