Mae Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer Cwpan Pinatar yn Sbaen yr wythnos nesaf.
Bydd Cymru’n herio’r Ffilipinas ar Chwefror 15, Gwlad yr Iâ dridiau’n ddiweddarach a’r Alban ar Chwefror 21.
Mae 27 o chwaraewyr wedi’u dewis ar gyfer y twrnament, yn dilyn ymgyrch gref wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2023.
Un enw newydd yn y garfan yw’r gôl-geidwad Bethan Davies o Sheffield United, a bydd hi’n ymuno â’i chyd-chwaraewyr hanner ffordd drwy’r twrnament, wrth i Safia Middleton-Patel adael yn gynnar i gael ymuno â’r tîm dan 19 ar gyfer twrnament ym Mhortiwgal.
Gallai’r amddiffynwraig Gemma Evans ennill ei hanner canfed cap pe bai hi’n cael ei dewis ar gyfer dwy o’r gemau.
Dyma’r ail dro i Gymru gystadlu yng Nghwpan Pinatar, a’r ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r holl gemau’n rhad ac am ddim i’w gwylio yn Stadiwm Pinatar, a byddan nhw’n cael eu darlledu’n fyw ar BBC iPlayer a gwefan chwaraeon y BBC.
Carfan Cymru
Laura O’Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Bristol City), Safia Middleton-Patel (Man U), Bethan Davies (Sheffield United), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Charlie Estcourt (Birmingham), Hayley Ladd (Man U), Josie Green (Caerlŷr), Gemma Evans (Reading), Lily Woodham (Reading), Esther Morgan (Sunderland, ar fenthyg o Spurs), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Crystal Palace), Angharad James (Spurs), Jess Fishlock (OL Reign), Ceri Holland (Lerpwl), Megan Wynne (Southampton), Kayleigh Green (Brighton), Helen Ward (Watford), Elise Hughes (Crystal Palace), Georgia Walters (Sheffield United), Carrie Jones (Caerlŷr, ar fenthyg o Man U), Hannah Cain (Caerlŷr), Rachel Rowe (Reading), Ella Powell (Bristol City), Alice Griffiths (Southampton), Maria Francis-Jones (Sheffield United, ar fenthyg o Man City).