Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru, wedi bod yn canu clodydd Paul Mullin, ymosodwr Wrecsam.
Daw hyn yn sgil tymor gwych i’r gŵr sy’n hanu o Lerpwl, sydd wedi sgorio 29 o goliau ar draws yr holl gystadlaethau hyd yma.
Mae Mullin, sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn chwarae i Gymru, yn gymwys i wisgo’r crys coch oherwydd bod ei Nain yn Gymraes.
Dywed Rob Page ei fod wedi gwylio’r ymosodwr yn chwarae yng Nghwpan FA Lloegr, wrth i Wrecsam golli o 3-1 yn erbyn Sheffield United, a’i fod wedi’i blesio â’r hyn a welodd.
Gwneud argraff
“Fe wnaeth e argraff fawr arna i, wnaeth e ddim rhoi munud i’w hamddiffynwyr nhw ar y bêl,” meddai.
“Os oedd yna frwydr o’r awyr, roedd yno. Roedd e’n cystadlu drwy gydol y gêm. A dwi’n hoffi hynny amdano fe.
“Ac mae ganddo lygad am gôl ac mae’n amlwg yn chwaraewr o safon.
“Felly fe wnaeth e argraff fawr arna i.”
Mae Cymru yn dechrau eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2024 yng Nghroatia ar Fawrth 25, cyn chwarae gêm gartref yn erbyn Latfia ar Fawrth 28.