Mae Warren Gatland yn dweud ei fod yn “edrych tua’r dyfodol” wrth iddo wneud pum newid i’w dîm i herio’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Chwefror 11).
Collodd Cymru ei gêm agoriadol 34-10 gartref yn erbyn Iwerddon yng ngornest gyntaf Warren Gatland ers dychwelyd fel prif hyfforddwr.
Mae’r canlyniad hwnnw yn golygu mai Cymru sydd ar waelod tabl y Chwe Gwlad ar hyn o bryd.
Does dim lle i Alun Wyn Jones na Justin Tipuric yn y tîm i herio’r Albanwyr, a bydd Taulupe Faletau yn dechrau ar y fainc.
Bydd Wyn Jones a Dillon Lewis yn dechrau fel y ddau brop, tra bod Dafydd Jenkins yn dechrau yn yr ail reng am y tro cyntaf.
Yn y rheng ôl mae Jac Morgan yn symud i safle rhif wyth i wneud lle ar gyfer y blaenasgellwyr Tommy Reffell a Christ Tshiunza, fydd yn dechrau am y tro cyntaf yn y Chwe Gwlad.
Does dim newid ymhlith yr olwyr ar gyfer yr ymweliad â Murrayfield, pan fydd yr Albanwyr yn gobeithio am ail fuddugoliaeth ar y trot ar ôl curo Lloegr o 29-23 y penwythnos diwethaf.
“Edrych i’r dyfodol”
Dywed Warren Gatland fod yn “rhaid i Gymru ddechrau’n well” ym Murrayfield nag y gwnaethon nhw yn erbyn Iwerddon.
“Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau ond wedi ceisio cadw rhywfaint o sefydlogrwydd yn y rheng ôl,” meddai.
“Mae Wyn [Jones] wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ystod y tair wythnos ddiwethaf yn y gwersyll ac mae e’n cael cyfle.
“Wedyn Dafydd Jenkins yn dod mewn i’r ail-reng, edrych tipyn tua’r dyfodol. Crist Tshiunza hefyd.
“Rydyn ni’n edrych ar opsiynau fel rhif wyth os yw Faletau yn cael anaf, pwy sy’n mynd i chwarae yn y safle hwnnw, felly mae Jac [Morgan] yn cael cyfle.”
Y Tîm
Cymru: L Williams; Adams, North, Hawkins, Dyer; Biggar, T Williams; W Jones, Owens (capten), Lewis, Jenkins, Beard, Tshiunza, Reffell, Morgan.
Eilyddion: Baldwin, Carre, Brown, R Davies, Faletau, Webb, Patchell, Cuthbert.