Enillodd Gerwyn Price, y chwaraewr dartiau o Went, ail noson yr Uwch Gynghrair Dartiau ar ei domen ei hun yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Chwefror 9).

Fe drechodd e Nathan Aspinall o 6-3 yn y rownd derfynol yn Arena Ryngwladol y brifddinas, ar ôl curo Chris Dobey ac yna Michael van Gerwen ar y noson.

Roedd y canlyniad i’r gwrthwyneb o’r noson gyntaf, pan mai’r Sais enillodd yn erbyn y Cymro.

Yn dilyn ei lwyddiant ar yr ail noson, mae Price wedi cipio pum pwynt tuag at y gynghrair a gwobr ariannol o £10,000.

“Wir i chi, wnes i fwynhau pob munud ohono fe,” meddai’r Cymro.

“Dw i’n amsugno’r cyfan.”

Mae gan Chris Dobey, Michael van Gerwen a Nathan Aspinall bum pwynt yn y gynghrair bellach.

Ar ei ffordd i’r ffeinal, fe wnaeth Aspinall guro Peter Wright cyn trechu Michael Smith, oedd wedi curo’r Cymro arall Jonny Clayton yn rownd yr wyth olaf ar ddechrau’r noson.

Bydd y gystadleuaeth yn symud i Glasgow nos Iau nesaf (Chwefror 16), lle bydd Gerwyn Price yn herio Michael Smith, a Jonny Clayton yn wynebu Chris Dobey.