Mae Nathan Jones, rheolwr tîm pêl-droed Southampton, wedi dwyn sylw unwaith eto yn dilyn rhagor o sylwadau rhyfedd yn ystod cynhadledd i’r wasg.

Mae’r rheolwr o’r Rhondda, sydd dan bwysau yn ei swydd bresennol yn dilyn sylwadau beirniadol am berchnogion y clwb, wedi wfftio ystrydebau Cymreig gan ddweud ei fod e eisiau symud i ffwrdd er mwyn profi’i hun.

Fe fu’n siarad â’r wasg fore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 10) gyda’r pwysau arno’n cynyddu.

“Gallwn i fod wedi aros mewn cymuned lofaol, bod yn athro Ymarfer Corff a chael bywyd braf, priodi Cymraes neis,” meddai.

“Dw i ddim.

“Dw i eisiau profi fy hun ar bob lefel a dydy hynny’n ddim byd yn erbyn merched Cymreig.

“Dw i eisiau profi fy hun.”

Gyrfa Nathan Jones

Cafodd Nathan Jones ei eni ym Mlaenrhondda, gan chwarae i dimau Maesteg, Ton Pentre a Merthyr Tudful, cyn ymuno â Luton.

Symudodd e dramor wedyn at Badajoz a Numancia, cyn dychwelyd i Loegr at Southend, a chwarae wedyn i Scarborough, Brighton a Yeovil.

Ar ôl mentro i’r byd hyfforddi a rheoli, cafodd ei swydd gyntaf yn hyfforddi tîm dan 21 Charlton cyn cael ei benodi’n is-brif hyfforddwr Brighton ac yna’n hyfforddwr y tîm cyntaf.

Daeth yn rheolwr dros dro cyn dychwelyd i fod yn is-reolwr o dan Chris Hughton ac yna’n hyfforddwr y tîm cyntaf wrth i Colin Calderwood lenwi ei hen swydd.

Roedd yn rheolwr ar Stoke rhwng dau gyfnod gyda Luton cyn cael y cyfle i reoli Southampton yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ddiweddar, fe fu’r Cymro’n honni ei fod yn un o’r rheolwyr gorau yn Ewrop ar bapur ond mae ei dîm ar waelod y tabl ar hyn o bryd.

Nathan Jones

Y Cymro Nathan Jones yn ddiogel yn ei swydd yn Southampton – am y tro

Mae’r rheolwr wedi gwneud sawl sylw dadleuol am y clwb yn dilyn cyfnod cythryblus ar y cae ac oddi arno