Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Tony ‘Charlie’ Faulkner, cyn-chwaraewr rygbi Pont-y-pŵl a Chymru, sydd wedi marw’n 81 oed.
Roedd y prop yn aelod o’r triawd byd-enwog, y ‘Pontypool Front Row’, ynghyd â’r bachwr Bobby Windsor a’r prop arall Graham Price.
Ond dechreuodd chwarae rygbi gyda thîm y Whiteheads yng Ngwent ddiwedd y 1960au, cyn symud at Saraseniaid Casnewydd ac yna i Cross Keys.
Ond ym Mhont-y-pŵl y gwnaeth enw iddo fe ei hun o dan hyfforddiant Ray Prosser, ddaeth yn ddylanwad mawr ar ei yrfa.
Enillodd 19 o gapiau llawn dros Gymru, gan ennill ei gap cyntaf yn 33 oed yn erbyn Ffrainc yn 1975 a sgorio’i unig gais y flwyddyn honno hefyd yn erbyn Iwerddon.
Aeth yn ei flaen i helpu Cymru i ennill dwy Gamp Lawn a thair Coron Driphlyg, ac roedd yn aelod o garfan y Llewod yn Seland Newydd yn 1977.
Ar ôl ymddeol, daeth yn hyfforddwr gyda Chaerdydd a Chasnewydd, ynghyd â Chaerffili a St Peter’s.
Roedd llwyddiant Faulkner, Windsor a Price yn destun cân gan Max Boyce.
Daeth ei ffugenw ‘Charlie’ o enw ceffyl roedd yn ei farchogaeth yn blentyn.
Y tu hwnt i’r byd rygbi, roedd ganddo fe wregys du mewn jiwdo.
Teyrngedau
Wrth dalu teyrnged, dywed y sylwebydd Phil Steele, gafodd ei hyfforddi ganddo yng Nghasnewydd, ei fod yn “chwedlonol” ym myd rygbi ac yn “wyddonydd y sgrym”.
Cafodd ei alw’n “gymeriad mawr” gan Rygbi Caerdydd, ac yn “un o’r mawrion go iawn” gan Glwb Rygbi Pont-y-pŵl.
Dywed y cyn-brop Hugh Williams-Jones y bu’n “fraint” cael ei hyfforddi ganddo.
Mae Mark Ring, cyn-faswr Pont-y-pŵl, hefyd wedi talu teyrnged bersonol iddo.
“Cymeriad anhygoel oddi ar y cae,” meddai. “Wnes i hyfforddi gyda fe.
“Wedi aros yn ei lety gwyliau yn Nerja, gallwn eistedd a gwrando ar ei hiwmor drwy’r dydd.
“Cwsg mewn hedd. Betia’i nad yw Duw yn gwybod sut i sgrymio.”