Mae Clwb Pêl-droed Southampton wedi diswyddo’u rheolwr, y Cymro Nathan Jones.
Fe fu’r rheolwr o Gwm Rhondda yn y swydd am dris mis yn unig.
Cafodd ei ymadawiad ei gadarnhau gan y clwb mewn datganiad ffeithiol byr, sydd hefyd yn cadarnhau ymadawiadau’r hyfforddwr Chris Cohen ac Alan Sheehan.
Maen nhw’n dweud y bydd Rubén Sellés, hyfforddwr y tîm cyntaf, yn gyfrifol am y tîm wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Chelsea.
Roedd perchnogion Southampton wedi datgan eu cefnogaeth i’r Cymro’n ddiweddar, gyda’r clwb ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.
Cawson nhw grasfa o 3-0 gan Brentford, ond roedd Nathan Jones yn mynnu wedi’r golled ei fod yn “un o reolwyr gorau Ewrop” y tymor diwethaf.
Ers hynny, maen nhw hefyd wedi colli o 2-1 yn erbyn Wolves.
Dywedodd iddo wynebu pwysau i newid ei ddull o chwarae, a’i fod e wedi ildio i bwysau gan chwaraewyr ac wedi cyfaddawdu ond na fyddai’n barod i wneud hynny eto.