Fe fydd cadeirydd a Phrif Weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru yn mynd gerbron pwyllgor yn y Senedd ddydd Mercher (Chwefror 15) i drafod yr honiadau yn erbyn Undeb Rygbi Cymru.
Bydd y cadeirydd, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, a’r Prif Weithredwr dros dro, Brian Davies, yn mynd gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.
Daeth yr honiadau yn erbyn Undeb Rygbi Cymru i’r fei mewn rhaglen ar BBC Cymru fis diwethaf.
Bydd y pwyllgor yn ceisio deall yn well rôl a gwaith Chwaraeon Cymru yn y camau gweithredu gafodd eu cyhoeddi ers hynny, a llywodraethiant chwaraeon yn fwy eang.
Yn ôl Delyth Jewell, sy’n cadeirio’r pwyllgor, roedd yr honiadau wedi “peri cryn bryder”.
“Mae’r pwyllgor yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pawb sy’n cymryd rhan ac yn gweithio ym myd y campau yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofni rhagfarn neu wahaniaethu,” meddai.
“Fel rhan o’n gwaith parhaus ar y mater hwn, mae’n hanfodol ein bod ni’n ystyried sut mae chwaraeon yn cael ei lywodraethu yng Nghymru, ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn faes sy’n estyn croeso i bawb, yn ddiethriad.”