Dydy pyllau nofio heb weld y gwaethaf o effaith yr argyfwng costau ynni, ac mae disgwyl i’w sefyllfa nhw waethygu ym mis Ebrill, yn ôl Nofio Cymru.
Mae’r corff cenedlaethol yn galw am ragor o gefnogaeth ariannol i helpu canolfannau hamdden a phyllau nofio, ac yn poeni am yr effaith pan ddaw’r gefnogaeth bresennol i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Er nad oes yna’r un pwll wedi cau yn sgil yr argyfwng eto, mae un o’u partneriaid yng Nghaerdydd yn rhagweld y bydd eu biliau ynni’n codi gan £300,000 y flwyddyn i £900,000 y flwyddyn.
Yn ôl Sioned Williams, Pennaeth Campau Dŵr a Chynhwysiant Nofio Cymru, mae’r corff yn rhagweld y bydd pyllau yn trosglwyddo’r gost i’w cwsmeriaid.
“Rydyn ni wedi clywed yn barod am enghreifftiau lle bydd clybiau nofio’n gorfod talu 10% yn fwy, eto’n rhagweld y bydd y gost yna’n cael ei basio ymlaen i’r plant a’r rhieni sy’n talu am y gwersi,” meddai wrth golwg360.
“Gan ein bod ni i gyd yn stryglo fel mae hi i dalu biliau, fydd mynd i nofio neu i sesiynau fel aerobics dŵr neu wersi nofio hanfodol bwysig i blant yn mynd yn anoddach i’w wneud oherwydd bod ein biliau ni’n codi ym mhob man.”
Effaith ar iechyd meddyliol a chorfforol
Ers y pandemig, dim ond 42% o ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol gynradd yn gallu nofio, ac mae’r corff yn disgwyl i hynny ddirywio ymhellach.
“Rydyn ni’n gweld y ffigwr yna’n gwaethygu dros y misoedd nesaf. Un, oherwydd effaith pyllau nofio’n cau,” meddai Sioned Williams.
“Ond hefyd, costau bysiau a ballu’n codi. Rydyn ni’n gweld rhai ysgolion sydd wedi bod yn mynd â phlant i nofio’n gyson yn torri’n ôl a methu fforddio fo oherwydd bod costau bysus wedi cynyddu gymaint.
“Mae hynny hefyd yn cael effaith ar y pyllau nofio oherwydd maen nhw’n colli incwm hefyd.
“Ar un llaw rydyn ni’n clywed pa mor ddrwg ydy pethau efo’r Gwasanaeth Iechyd, ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy bod yn aquatically active.
“Ond rydyn ni’n gwybod bod ymarfer corff yn helpu ni’n gorfforol, ond hefyd yn feddyliol felly mae’r effaith o lai o bobol yn ymarferol corff yn wythnosol am gael effaith ar wasanaethau iechyd y wlad hefyd.
‘Y galw yno’
Yn ôl arolwg diweddar gan Chwaraeon Cymru, nofio ydy’r ail gamp fwyaf poblogaidd ymysg plant, gyda 61% o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru’n dweud eu bod nhw eisiau nofio mwy.
“Mae’r galw yna, ond yn anffodus y pres a’r cyfleusterau ydy’r broblem fwyaf,” meddai Sioned Williams.
Mae Nofio Cymru wedi lansio deiseb yn galw am gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Er bod y ddeiseb yn dal ar agor, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y mater, a gobaith Nofio Cymru yw byddan nhw’n sicrhau eu cefnogaeth i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am becyn ariannol i byllau nofio ar draws y Deyrnas Unedig.
“Fysan ni’n licio gweld cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru neu’r llywodraeth yn Llundain,” meddai Sioned Williams.
“Rydyn ni’n gwybod fod pawb yn galw am fwy o arian ar hyn o bryd, ond mae’r pyllau nofio yma’n fwy na jyst pyllau nofio, maen nhw’n helpu Gwasanaeth Iechyd y wlad ac maen nhw’n gallu bod yn hwb cymunedol i lot o bobol.
“Dadl ni rŵan ydy, os fedrwn ni gael dros 10,000 o lofnodion, mae o’n dangos bod y gefnogaeth yna gan y bobol mae hyn am effeithio, ac yn adio at yr achos.”
‘Torcalonnus’
Un dref sy’n gweld colli’i phwll nofio ar hyn o bryd ydy Merthyr Tudful.
Caeodd y pwll yn 2019 er mwyn gwneud gwaith adnewyddu arno, ac yn y dyddiau diwethaf fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful gyhoeddi bod gwaith wedi dechrau yno fis Rhagfyr y llynedd.
Y gobaith yw y bydd yn ailagor yn yr hydref, ond mae trigolion y dref yn gyfarwydd ag effaith bod heb bwll nofio.
“Mae’r sefyllfa’n dorcalonnus ar hyn o bryd gan fod y pyllau agosaf yn Aberfan, pwll bach iawn, Aberdâr sydd dros 25 munud i ffwrdd yn y car yn sgil gwaith ffordd, neu Glynebwy, sydd tua ugain munud o Ferthyr,” meddai Jonathan Davies, sy’n byw ym Merthyr Tudful, wrth golwg360.
“Gyda phoblogaeth o tua 60,000, dydy hi ddim yn dderbyniol nad oes yna bwll nofio cyhoeddus ym Merthyr.
“Mae fy mab yn mynd i wersi nofio unwaith yr wythnos, gan olygu taith gron o bron i ddwy awr am wers 30 munud gan ei bod hi’n cymryd cyhyd i deithio yno.
“Fydd yna nifer o bobol ddim yn nofio, neu methu, nawr gan nad ydy pyllau nofio yn hygyrch i bobol, er bod nofio’n sgil bwysig i’w gael, naill ai er hamdden neu fel arall.”
Ymateb
“Rydym yn gwneud popeth y gallwn, gyda’r adnoddau a’r pwerau sydd ar gael i ni, i helpu busnesau a chymunedau gyda’r gost gynyddol o danwydd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Fodd bynnag, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n dal y prif bwerau sy’n gysylltiedig â chostau ynni.
“Rydym yn galw ar weinidogion y Deyrnas Unedig i gynnwys canolfannau hamdden a phyllau nofio yn ei Chynllun Gostyngiad Bil Ynni.
“Rydym hefyd yn darparu £16m o arian cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, sy’n cynnwys helpu i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon gyda mesurau arbed ynni.”