Mae cynghorwyr yn dweud y byddai’n rhaid i dreth y cyngor yn Sir Benfro fod yn fwy na dwbl y swm sydd wedi’i gynnig pe na bai arian ail gartrefi’n cael ei ddefnyddio i helpu’r Cyngor i fantoli ei chyllideb.
Wrth gyfarfod ddoe (dydd Llun, Chwefror 13), fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Benfro ystyried tair opsiwn ar gyfer treth y cyngor ar gyfer 2023-24, yn erbyn bwlch cyllido o £18.6m a rhagamcan o fwlch cyllido o £50.7m hyd at 2027.
Y tair opsiwn dan ystyriaeth oedd cynnydd o 5%, 7.5% neu 10%.
Cynigiodd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyllid Corfforaethol, gynnydd o 7.5% i gyd-aelodau, fyddai’n cynyddu’r bil cyfartalog gan £62.46 i £1,311.63 ar gyfer eiddo Band D.
Roedd y Cynghorydd Alec Cormack wedi dechrau derbyn cynnydd o 10% cyn cyfaddawdu ar 7.5%, ac fe ddywedodd fod yr opsiwn isaf o 5% yn cael “effaith ddifrifol ar wasanaethau’r Cyngor”.
Byddai’r cynnydd o 7.5%, fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ar Fawrth 2, yn cael ei gyplysu ag arbedion yn y gyllideb o £8.055m.
Clywodd aelodau’r Cyngor y bydd angen cau’r bwlch ar gyfer 2023-24 drwy gyfuniad o gynnydd yn nhreth y cyngor, defnyddio 75% o refeniw treth y cyngor o ail gartrefi, defnydd o amcanbris o £1.6m o arian wrth gefn, ac arbedion o’r gyllideb.
Rhybuddiodd y Cynghorydd Alec Cormack y byddai angen cynyddu treth y cyngor gan 12.9% er mwyn mantoli’r gyllideb pe na bai’r Cyngor llawn yn cefnogi defnyddio 75% o’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi.
Ar hyn o bryd, mae ail gartrefi yn Sir Benfro’n talu dwywaith y gyfradd treth cyngor safonol.
Clywodd aelodau y byddai defnyddio 75% o’r premiwm ail gartrefi’n rhyddhau oddeutu £3.7m, fyddai’n ariannu gwasanaethau megis y Gwasanaeth Ieuenctid, digartrefedd, safonau tai, glanhau strydoedd, parciau a gofodau agored, a thoiledau.
‘Taro cydbwysedd’
“Mae’r Cyngor yn wynebu bwlch cyllido enfawr, a dw i’n teimlo bod y mesurau dw i’n eu hamlinellu yma’n taro cydbwysedd,” meddai’r Cynghorydd Alec Cormack.
“Fydd neb yn hapus â’r gyllideb hon, mae yna doriadau drwyddi draw.
“Yr hyn dw i’n ei obeithio yw y bydd yna gefnogaeth eang, yn gyntaf yn y Cabinet ac yna yn y Cyngor mai dyma fyddai’r opsiwn wael orau.”
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman fod hon “yn fwy nawr nag erioed yn gyllideb o gyfaddawdu”.
“Ydw i eisiau defnyddio 75% o’r gronfa honno? Nac ydw.
“Ond ydw i eisiau gwneud toriadau? Yr ateb yw ‘Nac ydw’.
“Does neb yn ennill yn y gyllideb hon.
“Y gorau allwn ni obeithio amdano yw ein bod ni’n dod oddi yma’n meddwl ein bod ni wedi gwneud y peth gorau allwn ni er lles trigolion.
“Nid mater Sir Benfro yn unig yw hwn, mae’n broblem ledled Cymru.
“Mae’n rhaid i bob cynghorydd, nid dim ond yn Sir Benfro, gael sgyrsiau tebyg.”
Cytunodd aelodau i gefnogi argymhelliad gerbron y Cyngor llawn o gynnydd o 7.5%, gan ddefnyddio’r elfen treth cyngor ar ail gartrefi.