Bydd dyfodol dros bumdeg o brosiectau gwella ffyrdd yng Nghymru’n dod i’r amlwg heddiw pan fydd adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru’n cael ei gyhoeddi.

Cafodd y prosiectau eu rhewi yn 2021 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad i archwilio’r achos dros barhau â’r gwaith.

Bydd yr Adolygiad Ffyrdd, ynghyd â phenderfyniadau Llywodraeth Cymru ar bob prosiect, yn cael eu cyhoeddi heddiw (Chwefror 14).

Wrth siarad cyn y cyhoeddiad, dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, ei bod hi’n gobeithio y gwnawn nhw gymryd y cyfle i flaenoriaethau ffyrdd “mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar o deithio i bawb yng Nghymru”.

“Mae gwaith mewn cymunedau ar draws y wlad wedi dangos y gall ffyrdd eraill, mwy cynaliadwy o deithio –  cerdded a seiclo – gynnig dewis arall i gerbydau preifat i bobol sy’n byw mewn ardaloedd dinesig neu yng nghefn gwlad Cymru,” meddai cyfarwyddwr Sustrans, mudiad sy’n gweithio gyda chymunedau i greu Cymru iach a hapus i genedlaethau’r dyfodol.

“Mae anghenion trafnidiaeth pawb yn wahanol, dyna pam fod angen i ni gynnig mwy o opsiynau er mwyn i bobol wneud dewisiadau gwell.

“Os ydyn ni o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd, mae angen i ni ddod yn gymdeithas sy’n cefnogi teithio amlfodd.

“Os ydyn ni eisiau i bobol gerdded neu seiclo, ynghyd â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rydyn ni angen buddsoddiad parhaol i wella isadeiledd.

“Mae gan Gymru rai o’r cyfraddau llygredd aer gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, mae’n strydoedd a hewlydd yn orlawn yn barod.

“Nid adeiladu mwy o ffyrdd yw’r ateb.”

Yr adolygiad

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw eisiau gostwng ôl troed carbon Cymru, a bod angen “lleihau nifer y siwrnai rydyn ni’n eu gwneud mewn ceir preifat a chynyddu faint o bobol sy’n cerdded, beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus”.

Roedd disgwyl i adroddiad y panel, sy’n cael ei arwain gan yr arbenigwr trafnidiaeth Dr Lynn Sloman, gael ei gyhoeddi’r llynedd, ond bu’n rhaid gohirio er mwyn i Lywodraeth Cymru allu ystyried eu hymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth San Steffan.

Mae dau gynllun mawr wedi cael eu canslo yn barod ar gyngor y panel, sef ffordd osgoi Llanbedr yn Nyffryn Ardudwy a chynlluniau i roi cylchfannau newydd ar yr A55 yn y gogledd.

Y disgwyl yw y bydd adroddiad y panel yn argymell anghofio am y rhan fwyaf o’r prosiectau.

Rhewi prosiectau ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd 

Bydd adolygiad i gynlluniau priffyrdd Cymru’n cael ei gynnal er mwyn ystyried sut i wario ar wella ffyrdd presennol, yn lle adeiladu rhai newydd

Y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd osgoi Llanbedr yn “cosbi cymuned dlawd, wledig”

“Mae’n berffaith amlwg nad oes gan y Llywodraeth yma unrhyw ddealltwriaeth o fyw yn y wlad. Dim arlliw o grebwyll,” meddai Mabon ap Gwynfor