Bydd comisiwn trafnidiaeth newydd yn cael ei sefydlu er mwyn datblygu cyfres o gynlluniau ar gyfer y gogledd.
Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi canslo cynlluniau i wella rhannau o’r A55 yn Sir Conwy hefyd, dan argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu’r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â newidiadau i gyffyrdd 14-16 yr A55 yn Llanfairfechan.
Fe fydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a fydd yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Terry Burns, yn dilyn model y comisiwn a gafodd ei sefydlu ar ôl canslo’r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru’r M4 yn y de-ddwyrain.
Bydd yr adolygiad blwyddyn o hyd yn datblygu argymhellion ar gyfer teithio ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws y gogledd i gyd.
Cafodd prosiectau ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru eu rhewi fis Mehefin llynedd tra bod adolygiad i gynlluniau priffyrdd y wlad yn cael ei gynnal.
Trafnidiaeth gynaliadwy
Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Ffrindiau’r Ddaear Cymru, eu bod nhw’n falch na fydd gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu’r A55 yn Llanfairfechan.
“Y peth olaf y mae ein planed ni ei angen yw cynlluniau ffyrdd dinistriol sy’n gwneud ni’n fwy dibynnol ar geir ac arwain at fwy o allyriadau sy’n niweidio’r hinsawdd,” meddai.
“Rydyn ni’n byw mewn argyfwng hinsawdd, ac mae cymunedau ledled Cymru’n teimlo effaith tywydd eithafol ar eu bywydau dyddiol yn barod.
“Dyw e ddim yn ymwneud â rhewi ffyrdd newydd yn unig, mae’n ymwneud â chael polisi trafnidiaeth gynaliadwy sy’n rhoi opsiynau gwahanol, ansawdd uchel i bobol yn lle dreifio – dros Gymru, gan gynnwys mewn ardaloedd mwy gwledig.”
‘Ar y llwybr anghywir’
Mae Paula Renzel, ymgyrchydd gyda Rhwydwaith Gweithredu dros Drafnidiaeth Cymru, wedi croesawu’r newyddion hefyd.
“Allyriadau yn sgil trafnidiaeth ar y tir yw trydydd achos mwyaf allyriadau yng Nghymru, ond eto does dim gostyngiad, bron, ers 1990,” meddai.
“Mae angen adolygiad ffyrdd ers tro byd, ac rydyn ni’n falch o weld bod cynnydd. Mae’r rhestr hir o gynlluniau ffyrdd a fydd yn cael eu hadolygu yn dangos pa mor bwysig yw hyn.
“Petai’r rhain yn cael eu hadeiladu, byddai traffig ac allyriadau’n cynyddu ac yn ein rhoi ni ar y llwybr anghywir i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”
‘Problemau diogelwch anferth’
Fodd bynnag, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, wedi beirniadu’r cynlluniau i beidio gwneud gwaith, a fyddai wedi golygu cael gwared ar ddau gylchfan ar yr A55.
“Mae naw miliwn o arian trethdalwyr wedi cael ei wario ar brosiect ar gyfer cyfnewid cylchfannau ar yr A55 hyd yn hyn, a beth sydd gan breswylwyr Dwygyfylchi, Penmaenmawr, a Llanfairfechan i’w ddangos wedi’r gwariant anferthol hwnnw ar eu cymunedau? Dim byd o gwbl,” meddai.
“Onid yw’r Dirprwy Weinidog yn sylweddoli bod cael ceir yn ciwio am amser hir i ymuno â chylchfannau yn niweidio’r hinsawdd a’r aer rydyn ni’n ei anadlu?
“Onid yw e’n sylweddoli ar y problemau diogelwch anferth i yrwyr wrth ymuno â chylchfannau?
“Dyw defnyddio’r argyfwng hinsawdd i gyfiawnhau gadael y cylchfannau lle dydyn nhw ddim yn ddigon da.
“Does gen i ddim problem gydag annog opsiynau gwahanol i geir, ond mae’r cyffyrdd yn eithriadol o beryg ar y brif ffordd i Ogledd-orllewin Cymru, rhwng Iwerddon ac Ewrop.
“A bod yn onest, dw i’n meddwl bod Llywodraeth Cymru yn methu â sicrhau diogelwch ffyrdd ar ôl achosi blynyddoedd o ansicrwydd i drigolion lleol.”
“Poen gorfod aros yn hir”
Dywedodd un o breswylwyr Dwygyfylchi, pentref gerllaw i’r rhan o’r A55 lle’r roedd disgwyl i’r gwaith ddechrau’r gwanwyn hwn, y byddai cael gwared ar y cylchfannau wedi bod yn “syniad da”.
“Roedd o’n syniad da gwneud rhywbeth am y cylchfannau achos ti’n gallu bod yna am ddeng munud yn y bore, oherwydd y rush hour,” meddai Lyuba Donskaya wrth golwg360.
“Ond, mae’n siŵr y bysa hi’n brysur yno yn y bore petaen nhw’n dechrau ar y gwaith ei hun hefyd – er mae yna gymaint o waith ar yr A55 fel mae hi, dw i ddim yn gwybod os y byddai hynny’n gwneud gwahaniaeth i fi.
“Gan fy mod i’n gweithio shifftiau, anaml fydda i’n mynd trwy’r lle yn ystod y rush hour felly dydy’r cylchfannau ddim yn fy effeithio i gymaint â hynny.”
Dywedodd y gallai’r cylchfannau fod yn beryglus i bobol sydd ddim yn gyfarwydd â nhw, ond nad ydy hi’n eu hystyried nhw’n beryglus fel arall.
“Mae ceir yn dod ar y cylchfannau yn eithaf sydyn, ond fel arall dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n beryglus,” meddai Lyuba Donskaya.
“Dim ond ei bod hi’n boen bod rhywun yn gorfod aros am amser hir pan mae yna lwyth o geir yn dod o gyfeiriad y gorllewin.”
‘Buddsoddi mewn opsiynau eraill’
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Lee Waters bod rhaid gwneud pethau’n wahanol a chynnig opsiynau ymarferol i bobol y gogledd eu defnyddio er mwyn teithio, yn hytrach na dreifio.
“Yn ogystal ag edrych ar goridor yr A55, bydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig,” meddai Lee Waters.
“Bydd angen buddsoddi rhagor mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac rwy’n falch iawn bod yr Arglwydd Burns wedi cytuno i arwain panel o arbenigwyr lleol i lunio rhestr fanwl o brosiectau y bydd eu hangen i wireddu hyn.
“Nid yw hyn yn golygu na fydd ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu, ond mae’n golygu mwy o bwyslais ar ofalu am y ffyrdd sydd gennym eisoes yn ogystal â buddsoddi mewn opsiynau eraill ac ymarferol i roi dewis gwirioneddol i bobol.”