Bydd cyfle i siaradwyr Cymraeg hen a newydd ymuno â theithiau tywys mewn llefydd arwyddocaol o amgylch y wlad eto eleni.
Dros y misoedd nesaf, bydd y Mentrau Iaith ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal dwy gyfres newydd o deithiau tywys ‘Ar Droed’.
Yn dilyn llwyddiant teithiau natur ‘Ar Droed’ 2022, bydd un gyfres o deithiau’n ymweld â phedwar adeilad arwyddocaol a chyfres arall yn teithio i bedair gardd arbennig.
Tywyswyr lleol fydd yn arwain y teithiau, a bydd ambell enw adnabyddus yn ymuno i gefnogi.
Dechreuodd y gyfres gyntaf gydag ymweld â Senedd Cymru’r wythnos ddiwethaf, ac ymunodd y Llywydd, Elin Jones, â’r grŵp i gael sgwrs am yr adeilad, gwaith y Senedd a’i gwaith hi.
‘Mwynhau defnyddio’r Gymraeg’
Bydd y daith nesaf yn ymweld â Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth ar Chwefror 22, a’r ddwy arall yn mynd i fryngaer Castell Henllys yn Sir Benfro a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddiwedd mis Mawrth.
Yn y gwanwyn a’r haf, bydd y gyfres gerddi’n ymweld â Phortmeirion, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Gardd Berlysiau’r Bont-faen a Phont y Tŵr – gardd Sioned ac Iwan Edwards sy’n wynebau cyfarwydd ar Garddio a Mwy.
“Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol ac rydyn ni’n falch dros ben bod teithiau tywys ‘Ar Droed’ yn cael eu cynnal eto eleni,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Bydd y teithiau yn gyfle i ddysgwyr ddod i wybod mwy am y cyfoeth o eiriau Cymraeg, yn ogystal â chyfarfod a sgwrsio gyda dysgwyr eraill yn eu hardal.”
‘Pontio cymunedau’
Ychwanega Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau Mentrau Iaith Cymru bod croeso i bawb sy’n siarad Cymraed, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr iaith gyntaf, ar y teithiau.
“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal gweithgareddau i roi cyfle i bobol fwynhau siarad Cymraeg yn eu hardaloedd nhw.
“Felly, rydym yn falch iawn o allu cynnal y ddwy gyfres o deithiau tywys o dan faner ‘Ar Droed’ eto eleni.
“Rydym yn awyddus i ddangos bod y gweithgareddau’n gallu pontio cymunedau hefyd.
“Mae sgwrs yn llifo yn llawer gwell wrth wneud gweithgareddau fel mynd am dro a chymdeithasu.”
Mae croeso arbennig i’r rhai sy’n aelodau o’r cynllun Siarad, cynllun sy’n rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr ddod at ei gilydd i gymdeithasu, meddai’r Mentrau Iaith.