Bydd gwylnos yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd nos Iau (Chwefror 16) i gofio am Brianna Ghey gafodd ei thrywanu i farwolaeth yn Swydd Gaer dros y penwythnos.

Daethpwyd o hyd i’r ferch 16 oed wedi’i hanafu mewn parc ym mhentref Culcheth ger Warrington ddydd Sadwrn (Chwefror 11).

Mae gwylnosau eraill wedi cael eu trefnu mewn dinasoedd dros wledydd Prydain, gan gynnwys yn Lerpwl, Bryste, a Llundain, ar gyfer y dyddiau nesaf.

Roedd Brianna Ghey yn ferch drawsryweddol, ac mae’r gwylnosau’n cael eu trefnu gan aelodau o’r gymuned trawsryweddol a chefnogwyr.

Mae’r heddlu wedi dweud nad oes tystiolaeth i awgrymu bod yr ymosodiad yn drosedd gasineb, ac mae merch a bachgen, y ddau yn 15 oed, wedi’u harestio ar amheuaeth o’i llofurddio.

‘Adlewyrchu a galaru’

Bydd gwylnos Caerdydd yn cael ei chynnal nos Iau am 7yh ger y Tree of Life drws nesaf i Brodies Coffee Hut tu allan i’r Amgueddfa Genedlaethol.

“Bydd yn adeg i adlewyrchu a galaru, gyda rhai o aelodau’r gymuned leol yn dweud gair,” meddai’r Queer Emporium yng Nghaerdydd.

Mewn trydariad, dywedodd yr elusen hawliau LHDTC+ Stonewall: “Mae ein meddyliau gyda Brianna Ghey, menyw ifanc drawsryweddol, a’i hanwyliaid.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un a all fod ag unrhyw wybodaeth a fydd yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau i ddod ymlaen.”

Erbyn hyn, mae dros £67,000 o gyfraniadau wedi cael eu rhoi tuag at dudalen GoFundMe gafodd ei sefydlu er mwyn cefnogi’r teulu.

“Roedd Brianna yn ferch hyderus,” meddai’r dudalen.

“Daeth â lot o chwerthin i fywydau’r rhai oedd yn ei hadnabod.

“Roedd hi’n edrych ymlaen at gwblhau ei arholiadau eleni, a dechrau ei thaith i fyd oedolion.”