Mae trefn Llywodraeth San Steffan o ddyrannu arian ar gyfer buddsoddiadau cymunedol yn “ddi-drefn a di-gyfeiriad”, medd arweinydd Cyngor Gwynedd.

Wrth siarad am Gronfa Ffyniant Bro San Steffan cyn cyfarfod cabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos hon, dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru, Dyfrig Siencyn, nad oes “dim” strategaeth yn y ffordd mae’r arian yn cael ei ddyrannu.

Pwrpas y Gronfa Ffyniant Bro, neu Gronfa Codi’r Gwastad, yw buddsoddi mewn isadeiledd sy’n gwella bywyd bob dydd dros y Deyrnas Unedig.

Caiff awdurdodau lleol wahoddiad i wneud cais am arian i gefnogi canol trefi, safleoedd diwylliannol a threftadaeth, a phrosiectau trafnidiaeth lleol.

Cafodd £1.7 biliwn ei ddyrannu yn y rownd gyntaf ym mis Hydref 2021, a £2.1 biliwn arall yn Ionawr 2023.

Gogledd orllewin Lloegr sydd wedi derbyn y swm uchaf o arian ar y ddau achlysur, er mai Cymru sydd wedi derbyn y swm uchaf fesul pen i gyd efo’i gilydd.

‘Dim strategaeth’

Yn ystod yr ail rownd, cafodd £18.8 miliwn ei ddyrannu i Gyngor Gwynedd wella llwybrau beicio a cherdded yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol ac i gefnogi Neuadd Ogwen ym Methesda.

“Rydym yn werthfawrogol o’r arian rydym wedi ei dderbyn o gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan ar gyfer Ardal y Llechi yma yng Ngwynedd,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Ond, mae holl drefn dyrannu arian ar gyfer buddsoddiadau cymunedol economaidd yn ddi-drefn, di-gyfeiriad ac yn ddibynnol ar fympwy gwleidyddol a gweision sifil yn Llundain.

“Does DIM strategaeth i’r ffordd mae’r arian yn cael ei fuddsoddi, ac yn wir, mae’n mynd yn groes i addewid y Torïaid na fydd “yr un geiniog yn llai” yn dod i Gymru wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydym yn colli £1.1 biliwn yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf ac mae gwariant awdurdodau lleol y pen wedi gostwng 9.4% yn y deng mlynedd diwethaf.

“Mae’r Torïaid yn mynd yn groes i gynlluniau sydd wedi eu dylunio gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol, yma yn ein cymunedau.

“Sut allwn ni ddioddef cael ein rheoli gan lywodraeth sydd mor ddi-hid, di-glem a di-drefn?

“Oni ddylai cyllid datblygu economaidd cymunedol gael ei ddyrannu yn ôl yr angen ac nid ei ddosbarthu i ardaloedd cyfoethog fel etholaeth Richmond, Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol?

“Mae’n amser i ni sefyll ar ein traed ein hunain ac mae’n hen bryd i’r blaid Lafur sefyll dros bobl Cymru yn wyneb y ffordd sarhaus mae’r Torïaid yn Llundain yn ymdrin â Chymru.

“Mae’n amser i Lafur hawlio’i lle a mynnu mwy o ddatganoli i Gymru.”