Mae pob cynllun mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru wedi cael eu canslo yn sgil pryderon amgylcheddol.

Golyga hynny na fydd cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn bwrw yn eu blaen, na thros 40 o brosiectau eraill.

Cafodd Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi heddiw (Chwefror 14), ar ôl iddyn nhw rewi’r gwaith o adeiladu ffyrdd newydd yn 2021 a chomisiynu adolygiad arbenigol.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu’r newyddion gan ddweud bod y cyhoeddiad yn “garreg filltir”.

Rhaid i bob ffordd newydd basio meini prawf llym hefyd, sy’n golygu nad ydyn nhw’n cynyddu allyriadau carbon na nifer y ceir ar y ffyrdd, yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd, nag yn arwain at geir yn gyrru ar gyflymderau uwch.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wrth y Senedd heddiw na “fyddwn ni’n cyrraedd Sero Net os na fyddwn ni’n stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd”.

Cynlluniau

Fe wnaeth y panel arbenigol, dan arweiniad Lynn Sloman, asesu 59 cynllun adeiladu ffyrdd a gwneud argymhellion ar ba rai dylid eu haddasu, eu hanghofio neu barhau â nhw.

Bydd 15 o’r rheiny’n bwrw ymlaen, ond mae’r gweddill i gyd wedi cael eu gwrthod neu am gael eu hail-asesu.

Yn hytrach na thrydedd bont i Ynys Môn, bydd adolygiad yn cael ei gynnal i edrych ar sut i wella tagfeydd a gwydnwch y ddwy bont arall. Byddan nhw hefyd yn edrych ar sut i gael pobol i deithio mewn ffyrdd gwahanol i yrru.

Ni fydd y Llwybr Coch ar yr A494 yn Sir y Fflint yn cael ei adeiladu chwaith.

Bydd rhai gwelliannau llai yn digwydd, gan gynnwys gwaith ar yr A4042 o Bont-y-pŵl i’r M4 yn Nhorfaen, a gwelliannau ar y A487 rhwng Abergwaun ac Aberteifi.

‘Codi’r bar’

Mae Lee Waters wedi dweud y byddan nhw’n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd, ond eu bod nhw’n “codi’r bar” wrth benderfynu ai ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i broblemau trafnidiaeth.

“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn, gan gynnwys buddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a seiclo,” meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

“Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Dydyn ni ddim yn cael ein cyfran o fuddsoddiad HS2.

“Ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn gwthio llawer o wasanaethau bysiau dros ymyl y dibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau buddsoddi cyfalaf.

“Hyd yn oed pe bydden ni am fwrw ymlaen â’r holl gynlluniau ffyrdd sydd ar y gweill, dyw’r arian ddim gyda ni i wneud hynny.

“Bydd ein cyllideb gyfalaf 8% yn is y flwyddyn nesaf o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Gyda llai o adnoddau daw yn bwysicach fyth blaenoriaethu, ac mae’r Adolygiad Ffyrdd yn ein helpu ni i wneud hynny.”

‘Carreg filltir’

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan gynnwys Transport Action Network.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir, gyda Llywodraeth Cymru’n rhoi’r argyfwng amgylcheddol ac ecolegol wrth wraidd penderfyniadau,” meddai Paula Ranzel, ymgyrchydd ffyrdd ac amgylchedd Cymru y rhwydwaith.

“Er gwaethaf eu ffordd flaengar o feddwl, byddai hi wedi bod yn hawdd parhau i adeiladu ffyrdd fel arfer.

“Ond am y tro cyntaf, mae gennym ni Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sy’n barod i wneud yr hyn sy’n iawn i genedlaethau’r dyfodol.”