Mae gwleidyddion yn gynyddol ddibynnol ar y cyfryngau cymdeithasol i gysylltu gyda phleidleiswyr a rhannu negeseuon eu pleidiau.

Mae’n debyg mai’r mwyaf poblogaidd o’r gwefannau hyn yw Twitter.

Fodd bynnag, mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Joel James, Aelod o’r Senedd Canol De Cymru’n dweud ei fod casáu’r wefan.

Cafodd y gŵr 37 oed ei ethol i’r Senedd yn etholiad mis Mai 2021 ar ôl treulio 13 mlynedd fel unig gynghorydd Ceidwadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Rhagfyr, datgelodd ymchwiliad gan y BBC fod mwy na 3,000 o drydariadau sarhaus yn cael eu hanfon at Aelodau Seneddol yn y Deyrnas Unedig bob dydd.

‘Casáu Twitter’

Dywed Joel James ei fod yn “casáu” defnyddio Twitter.

“Dw i’n credu fod gwleidyddiaeth yn gyffredinol wedi mynd yn fwy eithafol,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.

“Mae gwleidyddiaeth yn sicr wedi newid ers i mi ddechrau gwleidydda.

“Doedd y cyfryngau cymdeithasol ddim wir yn beth pan wnes i ddechrau.

“Dw i’n casáu mynd ar Twitter, mae o mor wenwynig.

“A dw i’m yn gwybod pam ei fod o fel yna oherwydd does dim angen iddo fod felly.

“Dyna fel y mae hi am wn i.”

Trydar Andrew RT Davies

Un dyn sy’n amlwg yn mwynhau defnyddio ei gyfrif Twitter yw Andrew RT Davies, er bod yna amheuon os mai ef sydd wir wrth y llyw.

Mae’r hyn mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ei ddweud ar Twitter wedi hollti barn a chythruddo nifer o ddefnyddwyr yn ddiweddar.

Cafwyd yr enghraifft ddiweddaraf o hyn heddiw wrth iddo drydar ar ddydd Sant Ffolant.

Teg dweud na chafodd y trydariad hwn yr ymateb gorau, gydag un yn gofyn iddo ddiffinio’r term ‘woke’.

“Yna eglurwch pam bod parch, bod yn ystyriol, cynwysoldeb, bod yn ymwybodol yn gymdeithasol, yn wrth-hiliol, yn feddylgar, ac yn gwrtais yn rhinweddau i chwerthin ar eu pen?”

Fe fydd y cyfweliad llawn gyda Joel James yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.