Dylai nwyddau mislif fod ar gael i ragor o bobol sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw, yn ôl Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
Un o gonglfeini cynllun Llywodraeth Cymru, ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’, yw ei gwneud hi’n haws i bobol gael gafael ar nwyddau mislif.
Mae’r cynllun yn nodi y dylai pawb allu cael gafael ar nwyddau mislif, ac yn annog pobol sydd methu eu fforddio i ofyn am gymorth.
Wrth gyhoeddi’r rhaglen, dywedodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, ei bod hi’n bwysicach nag erioed bod nwyddau mislif ar gael i bawb yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Rydyn ni eisiau sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absenoldeb o’r gwaith neu dynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd tlodi mislif,” meddai.
Y cynllun
Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae dros £12m wedi’i fuddsoddi i wella mynediad at nwyddau mislif am ddim i blant, pobol ifanc a’r rhai ar incwm isel yng Nghymru.
Mae nwyddau mislif am ddim ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau i deuluoedd, hybiau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid.
Y gobaith yw dod â thlodi mislif i ben, ac erbyn 2027 mae Llywodraeth Cymru am weld y wlad yn deall, yn derbyn ac yn normaleiddio sgyrsiau am y mislif.
Maen nhw hefyd am i bawb sy’n cael mislif ddeall eu mislif a bod yn hyderus yn gofyn am gymorth, yn ogystal â pheidio wynebu anghydraddoldebau iechyd wrth ofyn am help meddygol.
Ynghyd â hynny, maen nhw am i nwyddau mislif diogel fod ar gael i bawb sydd eu hangen, a bod y stigma sydd ynghlwm â’r pwnc yn cael ei herio drwy adnoddau addysgol.
Cywilydd ac euogrwydd
Roedd Dee Dickens yn ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif pan oedd hi’n tyfu i fyny ac yn teimlo cywilydd ohoni ei hun pan oedd hi ar ei mislif, gan boeni drwy’r amser y byddai pobol yn sylwi.
“Byddwn yn defnyddio papur tŷ bach yn nhoiled yr ysgol,” meddai.
“Nes imi adael cartref, ro’n i’n treulio pob mislif yn poeni y gallai pobol fy arogli a dyna oedd yn gwneud imi deimlo cywilydd.
“Dyna un o’r rhesymau pam rwy’n siarad amdano fe nawr, gan nad ydw i eisiau i neb arall fynd drwy hyn.
“Pan wnes i adael cartref, ro’n i’n gyfrifol am fy arian fy hun, ond hyd yn oed wedyn byddwn yn rhedeg allan ac yn peidio â phrynu rhagor gan fod gen i’r euogrwydd yma, a byddwn yn dal i roi papur tŷ bach yn fy nicyrs.
“Mae wedi cymryd blynyddoedd o therapi imi sylweddoli fy mod i’n haeddu pethau neis ac na ddylwn i fod yn meddwl am nwyddau mislif fel pethau neis.”