Er bod pob un ohonom ni’n dod i gysylltiad â galar ar ryw bwynt, mae angen cael gwell dealltwriaeth ohono, yn ôl Rheolwr Hyfforddiant elusen y DPJ Foundation.

Mae’r elusen sy’n cefnogi pobol mewn cymunedau amaethyddol gyda’u hiechyd meddwl yn cynnal cwrs byr i ddatblygu gwell dealltwriaeth o alar dros yr wythnosau nesaf.

Yn ôl Kay Helyar, mae hi’n bwysig gwybod sut i gefnogi pobol sydd mewn profedigaeth, yn enwedig oherwydd achosion o hunanladdiad, fel nad ydyn nhw’n cael eu hynysu.

Mae’r cyrsiau dwyieithog ar gael i bobol o unrhyw gefndir sy’n byw rhan o’u bywydau yng Nghymru, y cyntaf yng Nghaerfyrddin ar Chwefror 16 a’r llall yn y Trallwng ar Fawrth 1.

Y bwriad yw cyflwyno fersiwn o’r cwrs i bobol ifanc hefyd, drwy glybiau’r ffermwyr ifanc.

“Dydyn ni ddim yn mynd trwy ein bywydau heb ddod i gysylltiad â rhywun mewn profedigaeth,” meddai Kay Helyar wrth golwg360.

“Mae’n debyg y byddwn mewn profedigaeth ein hunain ar ryw bwynt.

“Mae pobol mewn profedigaeth yn agored i niwed ac angen cymorth, ac mae angen y gefnogaeth gywir arnyn nhw, mae angen i ni ddweud y pethau cywir.”

Cyngor

Fel rhan o’r cwrs, bydd y DPJ yn rhoi cyngor ar sut i helpu pobol sy’n delio gyda galar a phrofedigaeth.

“Rhai o’r pethau da i ddweud yw cynnig cydymdeimlad a dweud pa mor sori ydych chi eu bod wedi colli’r person,” meddai Kay Helyar.

“Rhai awgrymiadau da yw siarad am atgof cadarnhaol o’r person a siarad am effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar eich bywyd.

“Gallwch ddweud y byddwch yn eu colli a pheidio â bod ofn eich emosiynau.

“Os na allwch feddwl am rywbeth i’w ddweud, gallwch ddweud, ‘Does gen i ddim y geiriau. Dydw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Gobeithio eich bod yn gwybod fy mod i yma i chi’.

“Rhai pethau i’w hosgoi all fod yn niweidiol nad ydyn nhw yn helpu yw llinellau sy’n dechrau gydag ‘O leiaf’. Pethau fel ‘O leiaf eich bod yn ddigon ifanc i briodi eto’.

“Peth arall i’w osgoi yw awgrymu crefydd arbennig, fel: ‘Maen nhw mewn lle gwell nawr’, achos efallai bydd hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n waeth, yn enwedig os yw eu colled yn herio eu credoau.

“Pan fyddwch chi’n meddwl am yr ymadroddion hyn rydyn ni wedi arfer eu clywed, rydych chi’n sylweddoli nad ydyn nhw’n ddefnyddiol.”

Mae Kay Helyar hefyd yn awgrymu ceisio bod yn gyfforddus gyda distawrwydd.

“Weithiau nid oes angen i chi ddweud unrhyw beth,” meddai.

“Mae eistedd gyda rhywun, dal eu llaw, rhoi eich braich o’u cwmpas a gadael iddyn nhw brosesu’r emosiwn hwnnw’r un mor werthfawr â chael y sgwrs honno.

“Pan fyddwch chi’n siarad â rhywun, mae’n bwysig gwrando, felly rhowch gyfle iddyn nhw siarad.”

Cydbwysedd rhwng gofod a chefnogaeth

Dywed fod rhoi’r gofod i bobol fyw eu bywydau a gwneud eu penderfyniadau eu hunain mewn galar a phrofedigaeth yn bwysig.

“Efallai y cawn ein temtio pan fydd rhywun mewn profedigaeth i ddechrau gwneud popeth drostyn nhw,” meddai.

“Yn hytrach na gofyn y cwestiwn mawr eang hwnnw: ‘Sut alla i helpu?’, [mae’n well] gofyn: ‘Sut alla i helpu heddiw?’ neu fod yn eithaf penodol gyda’r hyn rydych yn ei gynnig iddyn nhw.

“Efallai ei fod yn rywbeth fel ‘Rwy’n coginio lasagne heno; beth am i fi ddod ag un arall draw i chi? Mae yno i chi, ond os nad ydych chi ei eisiau, peidiwch â phoeni’.

“Mae peidio â llethu rhywun yn bwysig, yn naturiol mae eisiau bod yno i rywun sydd wedi colli rhywun.

“Mae angen cydbwyso a rhoi amser iddyn nhw fod ar eu pen eu hunain, dydy pawb ddim eisiau pobol o’u cwmpas drwy’r amser.

“Mae angen sicrhau eu bod yn cael cymorth pan fyddan nhw’n gwneud pethau ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf.

“Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofalu amdanoch chi’ch hun wrth gefnogi rhywun.

“Gall fod yn emosiynol, a chymryd llawer o’ch amser, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gofalu am eich hunan.”

  • Mae’n bosib cofrestru ar gyfer y cyrsiau yma.