Does neb yn gwybod gwir raddfa’r argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru heb ddarlun clir o nifer y bobol sy’n aros i weld deintydd, yn ôl adroddiad newydd.
Heb wybod faint o bobol sy’n aros i weld deintyddion ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn rhybuddio nad ydy hi’n bosib targedu cymorth i’r mannau sydd ei angen.
Er bod Covid-19 wedi cael “effaith ddifrifol” ar fynediad at wasanaethau deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd, mae’r adroddiad yn nodi bod problemau hirsefydlog cyn y pandemig.
‘Newidiadau radical’
Yn ôl Russell George, Aelod Ceidwadwyr o’r Senedd a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, efallai ei bod hi’n bryd cyflwyno “newidiadau radical”.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar fynediad at ddeintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ac ni ddylem danbrisio’r effaith negyddol ar y gweithlu,” meddai.
“Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn dangos bod problemau gwirioneddol yn y maes hwn hyd yn oed cyn Covid-19 – dywedodd tystion wrthym am danariannu hanesyddol yn ystod y degawd diwethaf.
“Mae llawer o bobol yn sôn am system ddwy haen, lle mae’r rhai sy’n gallu fforddio talu am driniaeth breifat yn gwneud hynny. Ond a ydym, mewn gwirionedd, mewn perygl o greu system dair haen?
“Mewn system o’r faith, mae’r bobol sy’n methu cofrestru gyda deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond sydd hefyd yn methu fforddio talu am driniaeth breifat, yn cael eu gadael heb fynediad at driniaeth o gwbl, ac allan nhw ond droi at wasanaethau deintyddol brys.
“Mae’r argyfwng costau byw yn debygol o waethygu’r broblem hon, ac arwain at fwy o anghydraddoldebau o ran sut mae pobol yn cael mynediad at ofal deintyddol.
“Mae diwygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru i gytundebau deintyddol wedi’i groesawu’n gyffredinol, ond mae rhai yn ei weld fel mân newid ar yr ymylon, pan mai’r hyn sydd ei angen, mewn gwirionedd, yw camau i ddiwygio’r system yn radical.”
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw’r cyllid presennol yn ddigon i ymdrin â’r ôl-groniad, ac i ystyried creu un rhestr aros ganolog ledled Cymru.
‘Dim dewis ond mynd yn breifat’
Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, dywedodd Rhian Davies o Rydaman nad yw ei mab wedi gweld deintydd ers i’r ddeintyddfa leol gau bum mlynedd yn ôl.
“Gaethon ni lythyr yn dweud bod ein deintyddfa yn cau – ac opsiynau ar gyfer tair deintyddfa arall, ond maen nhw mor bell i ffwrdd,” meddai.
“Mae un ohonyn nhw 40 milltir i ffwrdd.
“Dydy fy mhlentyn ddim wedi gweld unrhyw un ers amser maith – mae’n bymtheg oed nawr a dydy e ddim wedi gweld unrhyw un ers pum mlynedd.
“Oherwydd fod e ddim yn cael ei ystyried yn argyfwng, doedd neb yn fodlon edrych arno.
“Rydyn ni’n deulu o bedwar, a dydw i ddim eisiau mynd yn breifat, ond does dim dewis gen i.”
“Rydym yn ddiolchgar am waith y pwyllgor ar yr adroddiad hwn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn ystyried argymhellion y pwyllgor, ac fe fyddwn yn ymateb maes o law.”
‘Diffyg gweithredu’
Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i fynd i’r afael â’r argyfwng.
Y llynedd, cynhaliodd hi arolwg i brofiadau ei hetholwyr o ddefnyddio gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladolm gyda channoedd o bobol yn cwyno am anawsterau cael mynediad at wasanaethau am ddim.
Cafodd y pryderon hyn eu codi ganddi wrth ofyn cwestiwn i’r Ysgrifennydd Iechyd.
“Mae’r darlun sydd wedi’i baentio yn adroddiad heddiw yn cyd-fynd yn llwyr â’r ymatebion y derbyniais y llynedd gan gannoedd o’m hetholwyr yng Ngorllewin De Cymru,” meddai Sioned Williams.
“Mae’r adroddiad yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol ledled Cymru, ac o ddiffyg gweithredu Llywodraeth Lafur Cymru wrth ddelio â’r argyfwng hwn.
“Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn adleisio canfyddiadau adroddiad diweddar gan Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe a amlygodd fod 70% o bobol yn teimlo dan bwysau i dalu am ofal deintyddol preifat er mwyn iddynt allu cael apwyntiad, a bod llawer yn methu â chael mynediad i wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys menywod beichiog a phlant.
“Ni all fod yn deg y gall y cyfoethog neidio’r ciw drwy fynd yn breifat a chaiff pobol eu gadael heb wasanaethau digonol, neu heb apwyntiad o gwbl, ac nid wyf wedi fy mherswadio y bydd diwygio contractau Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn ddigonol ac ar unwaith.
“Rwy’n cefnogi galwad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd am ddiwygio radical i sicrhau dyfodol deintyddiaeth y GIG.”