Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi talu teyrnged i Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, ar ôl iddi gyhoeddi ei bod hi am gamu o’i swydd.

Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, mae arweinydd yr SNP wedi arwain ei gwlad â “nerth, tosturi a deallusrwydd diflino”, ac “wedi sefyll yn gadarn fel lladmerydd ffyrnig dros yr Alban”.

“Mae’r Alban yn lle gwell diolch i Nicola Sturgeon,” meddai.

“Mae cenhedlaeth o Albanwyr yn teimlo eu bod nhw’n ymgysylltu’n well â’u democratiaeth diolch i’w harweinyddiaeth.

“Dw i eisiau diolch iddi’n bersonol am y caredigrwydd ddangosodd hi i mi ar yr achlysuron y gwnaethon ni gyfarfod, ac am ysbrydoli cynifer o fenywod yng Nghymru.

“Diolch am bopeth, a phob lwc i’r dyfodol.”

Ymddiswyddiad

Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, dywedodd Nicola Sturgeon mewn cynhadledd i’r wasg gafodd ei threfnu ar frys ei bod hi’n gwybod yn ei phen a’i chalon mai dyma’r adeg iawn i gamu o’r neilltu.

Mae disgwyl iddi aros yn ei swydd hyd nes y daw olynydd i’r fei.

Does neb wedi arwain yr Alban yn hirach na hi, a hi oedd y ddynes gyntaf i’w hethol yn Brif Weinidog yr Alban.

Dywed mai “braint” oedd cael arwain ei gwlad.

“Ers yr eiliad gyntaf un yn y swydd, dw i wedi credu mai rhan o wasanaethu’n dda fyddai gwybod, bron yn reddfol, pryd fo’r amser yn iawn i wneud lle i rywun arall,” meddai.

“A phan ddaeth yr adeg honno, bod â’r dewrder i wneud hynny, hyd yn oed pe bai’n teimlo i nifer ar draws y wlad ac yn fy mhlaid ei bod hi efallai’n rhy gynnar.

“Yn fy mhen a’m calon, dw i’n gwybod mai nawr yw’r adeg honno.

“Mae’n iawn i mi, fy mhlaid ac i’r wlad.”

Mae nifer o fewn ei phlaid wedi mynegi eu sioc ynghylch ei phenderfyniad.

‘Cyfraniad aruthrol’

Un arall sydd wedi talu teyrnged iddi yw Dafydd Iwan, cyn-Lywydd Plaid Cymru.

“Roedd araith Nicola Sturgeon yn dangos ei gallu a’i hegwyddorion yn glir,” meddai.

“Byddai’n anodd ei churo.

“Mae ei chyfraniad wedi bod yn aruthrol, ac y mae gwendid yr arweinwyr yn Llundain yn fwy amlwg yn ei chysgod.

“Diolch Nicola.”

“Tristwch” o glywed y newyddion

Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, hefyd wedi ymateb i’r cyhoeddiad, gan sôn am ei “thristwch” a chanmol yr hyn gyflawnodd Nicola Sturgeon yn y swydd.

“Mae heddiw’n ddiwrnod trist iawn i’r Alban a gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae ymrwymiad Nicola Sturgeon a’i Llywodraeth i gyfiawnder cymdeithasol yn glodwiw, ymrwymiad sy’n cael ei grisialu gan bolisïau radical fel Taliad Plant yr Alban, addysg prifysgol am ddim, bocsys i fabis newyddanedig a 1,140 awr o ofal plant o ansawdd uchel am ddim dim ond i enwi llond llaw.

“Ar gyfnodau pan oedd ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn dirywio, bu’n ymgorfforiad o integriti, gonestrwydd a thryloywder. Roedd y rhinweddau hynny wedi eu hadlewyrchu’n amlwg yn ei haraith heddiw.

“Mae wedi bod yn bresenoldeb cyson a dibynadwy dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd.

“Diolch Nicola.”