Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am geisiadau prosiectau arloesol, i ymuno â’u portffolio Cynllun Twf, ar ôl cyhoeddi dyraniad cyllid o hyd at £30m.

Nod yr arian yw cefnogi prosiectau sydd â’r potensial i ysgogi twf economaidd a chreu swyddi yn y rhanbarth.

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r alwad hon am brosiectau newydd,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd gogledd Cymru.

“Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau all ddangos sut y gallen nhw gyfrannu at amcanion ein Cynllun Twf wrth ddatblygu economi cynaliadwy gydag effaith hir-dymor yma yng ngogledd Cymru.

“Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau trawsnewidiol sy’n barod i dderbyn buddsoddiad, ac sy’n atgyfnerthu ein rhaglenn Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth; Ynni Carbon Isel; a Tir ac Eiddo. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau sy’n cyd-fynd â’n rhaglenni Cysylltedd Digidol ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch, os gall y prosiectau ddangos potensial o ran swyddi a buddsoddiad i’r rhanbarth.”

‘Economi fwy bywiog, cynaliadwy a gwydn’

Ychwanegodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru:

“Mae gan y Cynllun Twf ffocws hirdymor a bydd yn adeiladu economi mwy bywiog, cynaliadwy a gwydn yma yng ngogledd Cymru,” meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru.

“Mae’r cyfle yma yn un gwych i adnabod prosiectau cyffrous all helpu gyflawni ein huchelgais.”

Mae ceisiadau ar gyfer yr arian ar agor erbyn hyn, ac mae mwy o wybodaeth am sut i ymgeisio, y meini prawf, a gofynion pellach ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru.

Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar Chwefror 27 i ateb unrhyw gwestiynau am y cyfle newydd hwn.