Mae undeb addysg NEU Cymru yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i aelodau streicio ar Fawrth 2.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw wrthod cynnig gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Roedd y cynnig yn cynnwys codiad cyflog o 1.5%, a thaliad untro o 1.5%, ond yn ôl yr undeb, roedd y cynnig hwnnw’n annerbyniol.

Cafodd streic bosib ei gohirio ar Chwefror 14 yn y gobaith y byddai modd dod i gytundeb yn y cyfamser.

Yn ôl Kevin Courtney, Cyd-Ysgrifennydd Cyffredinol yr NEU, doedd y cynnig “ddim yn ddigon da”.

“Mae gennym ni fandad clir dros weithredu streic, sydd wedi’i haildrefnu ar gyfer Mawrth mewn ysgolion ledled Cymru,” meddai.

“Rydym wedi diolch i’r gweinidog am fod yn barod i drafod gyda ni, yn wahanol iawn i Lywodraeth San Steffan.”

‘Ceisio datrysiad’

“Mae NEU Cymru wedi ymrymo i geisio datrysiad i’r anghydfod yma ar ran aelodau sy’n athrawon a staff cynorthwyol cyflogedig ledled Cymru,” meddai David Evans, Ysgrifennydd NEU Cymru.

“Mae ein gofynion ni wedi bod yn glir, a byddwn yn cyfarfod â’r gweinidog a’i swyddogion mor aml ag y bo angen er mwyn ceisio sicrhau cytundeb fydd yn datrys yr holl faterion.

“Tra ein bod ni’n cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynigion sy’n cynnwys ceisio mynd i’r afael â llwyth gwaith ac ailagor trafodaethau ar gyfer 2023/24, dydy’r cynigion hynny ddim yn ateb disgwyliadau ac anghenion aelodau.