Ddim ar chwarae bach mae rhywun yn ennill sedd i’r Ceidwadwyr ar gyngor sir yn y Rhondda, heb sôn am wneud hynny yn ei ugeiniau.

Ond dyna yn union wnaeth Joel James, sydd bellach yn Aelod Seneddol dros Ganol De Cymru.

Fe gafodd ei fagu ym mhentref Beddau ac mae ganddo radd Hanes o Brifysgol Bryste a gradd Meistr mewn Hanes Cymru o Brifysgol Caerdydd.