Mae pawb yn hoffi cwis dydi? Boed yn y dafarn, yn anffurfiol o gwmpas y bwrdd bwyd, neu dros Zoom (cofio rheiny?). Ac wrth gwrs, ar y teledu.

Dw i’n sicr yn mwynhau cwis ar y bocs ond yn teimlo fel nad ydan ni wedi cael un da iawn ar S4C ers tro. Celwydd Noeth ydi’r un diwethaf dw i’n cofio ei wirioneddol fwynhau ac mae hynny’n mynd yn ôl sawl blwyddyn bellach.