Mae’r drymiwr Deian Elfryn yn gwerthu blanced go arbennig tros y We, er mwyn codi arian at achos da.

Roedd ei dad, y diweddar Morus Elfryn a fu farw y llynedd, yn rheolwr cynhyrchu C’Mon Middffîld!, ac wedi dal ei afael yn y llieiniau cwrw oedd i’w gweld ar far tafarn y Bull ym Mryncoch.

Fe wnaed blanced gyfan o’r llieiniau hyn a’i rhoi ar wely Deian y mab, sydd bellach yn gwerthu’r flanced ar y We er mwyn codi arian at ymchwil canser.