Gyda’r newyddion yn frith o straeon dwys am y daeargryn darodd Twrci a Syria, mae’r ffaith fod Aelodau Seneddol am gael codiad cyflog wedi mynd dan y radar.

Ym mis Ebrill fe fydd cyflogau criw San Steffan yn codi 2.9%… nid cynnydd o 3%, ond 2.9, sylwer – yr optics yw popeth mewn politics!

Felly ar hyn o bryd mae’r Gwir Anrhydeddus yn Nhŷ’r Cyffredin ar £84,144 y flwyddyn, ond ymhen cwpwl o fisoedd fyddan nhw fyny i £86,584.

Rhyfedd o fyd, onide?