Nos Wener, mi es gyda chwpl o ffrindiau am fwyd i Heol y Plwca (City Road) yng Nghaerdydd. Bwyty Eidalaidd, wrth reswm. Arferai’r fan honno o’r byd fod yn stomple imi am flwyddyn gron, ddeunaw mlynedd yn ôl. Mae hi bob amser yn ddifyr gweld sut mae rhywle’r oeddech chi’n ei nabod yn dda wedi newid, a dyma’r tro cyntaf imi wir graffu arno a mynd drwy ambell atgof.