Ymddiheuriadau am yr hiatus bach – bu yn gyfnod hollol wyllt.

Pythefnos yn ôl, ges i alwad gan Vicky Featherstone, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Royal Court ble’r oeddwn i’n Gyfarwyddwr-dan-hyfforddiant o 2020-2021.

Eglurodd bod Cyfarwyddwr drama un-person newydd o’r enw Graceland gan Ava Wong Davies (dramodydd Cymraeg-Tsieinëeg o Lundain) wedi gorfod tynnu allan, o ganlyniad i salwch teuluol, a hynny ond wythnos a hanner cyn i’r sioe agor.