Dwi wrth fy modd gyda gwaith Sean Fletcher, Alex Jones, Elis James a Lisa Jên.

Mae didwylledd a phroffesiynoldeb Sean Fletcher yn amlwg wrth gyflwyno. Mae afiaith a brwdfrydedd Alex Jones yn heintus. Mae Elis James yn un o’r comediwyr gorau i ddod o Gymru ers cenedlaethau. Ac mae llais Lisa Jên yn y byd cerddorol, ac yn fwyfwy ym myd y ddrama, yn unigryw.